Pwrpas y cyfan oedd herio'r holl gamweddau a oedd yn rhwystr i'r Iddewon gyflawni eu priod genhadaeth yn y byd, datguddio daioni Duw nid trwy eiriau'n unig ond trwy lafur enaid.
Bob tro y defnyddia garddwr y pridd, dylai roi'r daioni'n ol ar gyfer y cnwd nesaf.
Yr wyf yn sylweddoli fwyfwy wrth heneiddio mor gbwysig yw mwynhau daioni yr anrhegion hyn...
Pleser i'r gof hefyd ddydd y tynnu oedd fod popeth a wnaeth yn gweithio er daioni.
Daioni, meddid, oedd hanfod y bonheddwr; heb ddaioni ni allai gyflawni ei ddyletswyddau i'r wladwriaeth.
Ni all anogaethau i wneud daioni, nac addewidion am faddeuant Duw fyth fod yn ddigon i buro dyn o'i bechod.
Pan edrychaf yn ôl dros y blynyddoedd a chofio fel yr oedd hi yn y Rhondda pan oeddwn i'n mynychu Ysgol Ramadeg y Merched yn y Porth (y pryd hwnnw y 'Conty School for Girls' na feddyliodd undyn byw am ei galw wrth ei henw Cymraeg) y mae'r sefyllfa wedi newid yn fawr ac er daioni.
Y demtasiwn fawr ar hyn o bryd, wrth geisio esbonio'n hanesyddol sut y daeth y Diwygiad Efengylaidd, yw dadansoddi'r daioni a'i rhagflaenai a thynnu'r casgliad fod y Diwygiad yn gynnyrch anorfod y daioni hwnnw.
Roedd yr aelwyd honno wedi'i mynych gydnabod yn bwerdy daioni'r genedl ers hir amser gan grefyddwyr, gwleidyddion, llywyddion eisteddfodau, areithwyr Dygwyl Dewi, dirwestwyr, beirdd, stori%wyr, cerddorion, artistiaid a llu o amryfal gyfranwyr a fwydai bapurau a chylchgronau Oes Victoria.
Beth am ryddid, anfarwoldeb yr enaid, daioni, a Duw?
Mae'r aelodau i ddatguddio'n onest eu pechodau, i gydnabod daioni a gogoniant Duw, i siarad yn ddiweniaith â'i gilydd ac i gymryd eu ceryddu os digwydd iddynt droseddu.
Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.
"Dewch nawr, Sera," meddai a'i lais yn datgan mor ddiamyd yr oedd, ond â thinc o ddigrifwch ynghudd ynddo hefyd, "Ddaw dim daioni o ymddwyn fel yna."
Oherwydd hynny gallai ddeall a chyfarwyddo'r gŵr ieuanc a fyddai'n ymladd â themtasiynau ac amheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol.
Do, fe fu newid er daioni yno hefyd.
Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.