Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daliodd

daliodd

Llaciodd y tyndra, ond daliodd y dynion i gadw llygad ar ei gyd- deithwyr lawr wrth y balmwydden.

Ond fe wnaeth hi wella a phan glywodd hi na fuasai hi'n medru cerdded ar ei phen ei hun am ddwy flynedd daliodd i fynd i'r ysgol yn y boreau ac i gael ffisiotherapi yn y prynhawniau.

Daliodd y bywyd gwledig, gyda'i gysylltiad uniongyrchol a'r gwerthoedd Cymreig ac a pharhad yr iaith Gymraeg, yn ganolbwynt eu canu.

Daliodd y Gymdeithas i bwyso.

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

"Mae Sinai yn feichiog eto yn ôl pob sôn," a daliodd ei law allan i dderbyn ei gil-dwrn.

Daliodd Jean Marcel ei anadl a rhoddodd arwydd i'r criw.

Yno goruwch y dyfnderoedd mawr daliodd y rhai lleiaf un.

Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Wedi'i fagu yn ardal ddiwylliedig Uwchaled, daliodd yntau ar bob cyfle i ddringo ysgol gwybodaeth, a bu'n fyfyriwr brwd a gweithgar yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor.

Daliodd Wrecsam eu gafael yn dynn yn y cwpan ar noson ddigalon i Abertawe.

Daliodd hwynt i fyny'n uchel er mwyn i'r pedwar eu gweld.

Arafodd hyn lawer ar ei gerddediad ond daliodd i lafurio ar ffermydd y Cwm drwy'r amser.

Troes yn ôl i siarad efo rhywun a gwnaeth y ffordd y daliodd ei ben am ennyd i lun Sonia Lloyd lenwi meddwl Sioned unwaith eto.

Dichon ei fod yn gwybod mwy o ganeuon a baledi Cymraeg na neb a adwaenem, a daliodd i'w canu yn y tafarnau ac ar hyd yr heolydd hyd y diwedd .

Daliodd Ifor hi a gwenodd fodfedd o'i thrwyn.

Drwy'r cwbl, daliodd Curig Davies a'i briod i weithio'n egni%ol ym Mangor.

Daliodd Meinir a minnau i bwyso ar y rheilen er fod pawb arall wedi troi i mewn i'r salwn.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Eu henwcynnes a chyfeillgar hwy arno oedd 'the lad', a daliodd i ymweld a'r eglwys am flynyddoedd hir wedyn.

Daliodd i'w olygu hyd ddiwedd ei oes, a daliodd i ysgrifennu ar gyfer y werin yr oedd ganddo ddarlun mor ddelfrydol ohoni yn ei galon.

Ond daliodd Dei ef fwy nag unwaith yn edrych arno o gongl ei lygaid.

Daliodd y giât fochyn gyntaf ar agor iddi, ac aeth drwodd o'i flaen.

Pan oedd y lleidr ar fin cyrraedd y car daliodd Debbie ef.

Gofynnodd Crossley, Enomeris a Ruth iddo beidio â gwneud hyn, ond daliodd i fynd â the i Philti.

Daliodd ar y cyfle i godi ar ei draed a phoeri'n bwysig cyn swagro'n ffug-fuddugoliaethus i gyfeiriad y sied lle cadwem ein beiciau.

Daliodd i dynnu ac yna fe'i gwelodd yn dod i'r wyneb.

Yn un o'r canwyllbrenni, daliodd gip arni ei hun.

Ond daliodd Waldo at ei fater a dweud ei fod am brynu'r lamp ond nid oedd dim yn tycio - 'roedd y siopwr wedi penderfynu nad oedd arno mo'i heisiau!

Daliodd Delme y cwpan yn uchel iawn ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw o Ebrill a'r cwpan ar ei ffordd 'nôl i'r Strade ym mlwyddyn y dathlu.

Daliodd rhai o'r Lolardiaid, megis y Waldensiaid, i gwrdd yn y dirgel a darllen eu Beiblau hyd at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd.

Daliodd Rod ei lygaid a wincio.

Daethant at yr ail giât, wrth Goetra Uchaf, ac eto fe'i daliodd ar agor iddi, ac eto mi gerddodd hithau drwodd heb air.

Daliodd ei hanadl.

Daliodd y Cymry i arfer yr enw Aberhonddu.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

Daliodd Carol nhw yn y gwely gyda'i gilydd a gadawodd am Ganada.

Daliodd Harri Gwynn ei dir.

Daliodd pawb eu gwynt coesau iawn yn gwneud hyn, heb sôn am beilot hefo coesau metel!

Yn y cyfnod hwn daeth Hugh Evans i hoffter mawr o seryddiaeth, a daliodd i astudio'r wyddor hon ar hyd ei oes.

Chwalodd ei deulu a chollodd ei gartref er ys llawer dydd, ac aeth yntau yn grwydryn o'i hen gymdogaeth, ond daliodd i ganu hyd y diwedd.