Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dall

dall

Fe'i cysurodd ei hunan, rywsut, trwy geisio'i berswadio'i hun fod y pwnc wedi'i daro ar ysmotyn dall, ac nad oedd ar ei orau wedi cael diwrnod caled a thrafferthus yn y siop heb fawr o lwyddiant ar y gwerthu.

Atebodd fy nghyfaill dall fi mewn llawn hyder.

Ni chlywswn ef o'r blaen, a daeth iasau rhyfedd drosof wrth wrando ar ddyn dall yn claddu menyw ifanc.

Felly, carai'r bardd allu clywed fel y clyw y dall a gweld fel y gwêl y byddar.

Roedd fel petai'r rhai a arbenigai yng nghelfyddyd ymladd a lladd, wedi bod yn rhy brysur yn hela'r llwynog, a sicrhau bod eu lle breintiedig o fewn y gymdeithas yn ddiogel, i fedru rhoi amser i ddysgu unrhyw wers ers dyddiau'r rhyfel byd arall hwnnw Roedd y wlad ar ei thin - yn llythrennol felly, ac oni bai am ddewrder dall y rhai a gredai fod Ffasgaeth yn waeth na chaethwasiaeth, ac ysfa bwli o ddyn a dynnai wrth ei sigâr ac yfed ei hun i anymwybyddiaeth, am ymladd a rhyfel, mi fyddai pob dim wedi mynd i'r gwellt.

Cyfaill dall wrth f'ochr fel petai'n teimlo taith yn ymagor o'i flaen fesul milltir.

Dyn dall oedd y pregethwr hwn.

Teitl y gyfrol honno yw Mae'r Dall yn Gweld, a'r awdur yw Enid Wyn Baines.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Mae'r dall yn gwld yn wir!

Dim ond dau a adawyd ar ôl, plentyn dall nad oedd wedi gweld dim, a phlentyn mud a byddar na fedrai ddweud beth oedd wedi digwydd.

Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.

Aeth ati wedyn i adeiladu set i ŵr dall o gymydog a oedd yn byw gyda'i chwaer gerllaw.

Cusan Dyn Dall gan Menna Elfyn.