Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dannedd

dannedd

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Hyn, wedyn, a'i harweiniodd yn ddiweddarach, fel y cyfeddyf, i ddileu'r llinell wreiddiol wan, 'Wyneb yn wyneb gyda'r graig' oherwydd, chwedl yntau, 'y mae i'r graig hithau ei dannedd'.

Gwallt du fel creigiau'n gwreichioni'n yr haul, dyna ddywedai Iestyn wrthi, a'i dannedd fel cregyn bach gwynion a lynai wrthynt yn cuddio tu ôl iddo.

Bu'n gweithio mewn chwarel yn Pennsylvania, a rhyw ddeintydd croenddu'n dod yno i dynnu dannedd.

Cafodd y fath fraw fel i'w dannedd gosod ddisgyn ar y llawr!

Y cwdyn a ddaliai lwch dannedd Berwyn y Ddraig!

Fi sy'n ennill!' Ni thynnodd Llio ei golwg oddi ar ei hwyneb a synnodd wrth weld pa mor wyn a syth ledd ei dannedd.

Meddai ar wyneb gwridog, dannedd anwastad, a chnwd bras o wallt fel sypyn o grawcwellt wedi'i gropio.

Yr amser i dindroi, i dynnu gwynt drwyi dannedd gan roir argraff ar yr un pryd nad yw eisiaur hyn syn cael ei werthu rhyw lawer, beth bynnag.

Cwyd y ddau dwr ar y penrhynau i'n hatgoffa fod creigiau fel dannedd draig yn barod i rwygo llongau'n grybibion.

Gwych o gyffelybiaeth yw'r un a geir yn y pennill cyntaf: y tonnau a'r graig yn noethi eu dannedd ar ei gilydd ond heb y mymryn lleiaf o sŵn i'w glywed.

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

Y cwbwl oedd ynddo oedd crys nos, brwsh dannedd, taclau shafio a phâr o slipers.

Mae digonedd o dyfiant ar y graig o ynys fechan dafliad carreg i ffwrdd, ond allan o gyrraedd dannedd y defaid a'r geifr.

Chwerthin a chwerthin ddaru ni, a finnau'n mwynhau edrych ar Bigw yn hapus, ei gwallt newydd yn siglo yn ôl a blaen fel pendil, a'i dannedd gwyn yn y golwg.

Trodd i weld beth oedd wedi'i lorio ac fe'i cafodd ei hun yn wynebu genau glafoeriog un o gŵn Theros, gyda'i drwyn hirfain garw a dannedd fel crocodeil.

Steve Buscemi (Adolpho Rollo yn y ffilm hon; Mr Pink yn Reservoir Dogs) yn ddelwedd ynddo'i hun - ei wyneb; llygaid pysgodyn, dannedd ymwthiol a gormod ohonynt, gwallt tenau yn cilio o'i dalcen - wyneb hyll yn y bôn ond un nad oes modd tynnu'ch llygaid oddi arno.

Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.

Ffisig annwyd, eli babi, clapiau sebon, persawr, past dannedd, tabledi sipian at ddolur gwddw.

Edrychwch yn ôl i gyfeiriad Pen-yr-ole-wen a throwch yn araf yn eich unfan draw at y Tryfan, "llofrudd o fynydd" chwedl Gwilym R Jones, heibio dannedd y Gribin at unigeddau'r Glyderau a'r Garn.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Yn naturiol, roedd yna wylofain a rhincian dannedd ymysg ffyddloniaid y blaid wrth i'w harweinydd ddadfeilio gweledigaeth eu sylfaenydd.

Yn ôl ac ymalen, yn neidio ac yn prancio, gwalltiau'r merched a grimpiwyd mor ofalus yn syrthio am ben eu dannedd, a chotiau'r bechgyn yn fflio y tu ôl iddynt.

Pwy a'i hanghofia ef byth, a glywodd Waldo'n adrodd y saga yna am 'Fel Hyn y Bu', yn arbennig yn y dyddiau gwyn hynny cyn iddo gael dim dannedd gosod?

Tybed sut y byddai hynny wedi mynd i lawr gyda merched da y Dybliw Ai - nid bod gan lawer ohonyn nhw eu dannedd eu hunain beth bynnag o'r hyn a welwn i.

Dacw nghariad ar y dyffryn Llygad hwch a dannedd mochyn A dau droed fel gwadn arad Fel tylluan y mae'n siarad.

Suddodd un ddraig ei dannedd yng ngwddf y llall ond llwyddodd honno i daro'n ôl â'i chynffon.

'Mae 'ngwaed i'n berwi wrth 'u gweld nhw,' meddai Elen drwy'i dannedd.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.

Y diwrnod hwnnw, roedd sebon ar gael, ac ychydig o bast dannedd, ac, yn un gornel, roedd rhesi trist o offer sgi%o, heb fawr neb yn edrych arnyn nhw, heb sôn am feddwl prynu.

Ac yn cofion well byth yr hyn a ddigwyddodd wedyn wrth i fwystfilod afreolus y Frenhiniaeth a'r Wasg fod au dannedd yng nghynffonau ei gilydd.

Dechreuodd Jini ddarllen, 'Cymerwch: Chwe owns o hylif o lys brogaid, Hanner pwys o afu tramp, Dau ddwsin o hadau dannedd ieir, Dwsin o wyau clwc, Tri phwys o eira llynedd, Hanner pwys o gaws o fola ci...'

Diferai dannedd Rhys wrth iddo glywed yr oglau'n treiddio drwy'r papur lapio.

Dannedd miniog y llygoden yw unig allwedd i'r gist, a'r wobr yw'r gneuen werthchweil yng nghnewyllyn y garreg.