Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dant

dant

Yn ôl Meddygon Myddfai un ffordd i wella'r ddannodd oedd rhoi hoelen o dan y dant poenus cyn ei tharo i dderwen.

Mae cystadlu mewn Eisteddfod Genedlaethol, Urdd a Gþyl Gerdd Dant yn hollol wahanol i gystadlu yn Llangollen.

Oedd y ddau deulu yn ffrindiau erioed a phump oed oedd fy nhad pan dorrodd y dant cynta i fy mam.

Dafydd Huw Jones, Cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Oni all yr Wyl Gerdd Dant ymweld a lleoedd o'r fath, yna man a

Bod 'daliad' a 'llithren' yn gwbl afreolaidd, am eu bod yn hollol anghyson ag Egwyddor a Rheol Fydryddol "Mesurau Cerdd Dant" a "Mesurau Cerdd Dafod" yn eu cyfanrwydd.

Nid y mannau hyn yn aml yw cadarnleoedd cerdd dant.

At Gymdeithasau'r Orsedd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Cymmrodorion, i ofyn am eu nawdd i Gerdd Dant, a'u bod hwy i reoli neu ddeddfu bod y delyn a'r canu penillion i gael eu priod le ar raglenni'r dyfodol.

Nid yn unig oherwydd ei lafurwaith yn cynnal colofnau cerdd dant yn Y Cymro a'r Brython y mae Dewi Mai o Feirion yn haeddu clod.

A chyn gynted ag y dant yn rhydd, ymddygant fel eu gormeswyr.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Canu gwerin, pop, cymanfa, corau, telyn, cerdd-dant a chlasurol.

Yn ystod abadaeth rhyw Sion y canodd Llywelyn Goch y Dant ei awdl foliant i 'groestai Nedd', 'Neuadd beirdd a'u nawdd a'u bwyd'.

Dychwelodd y canwr opera rhyngwladol enwog, Bryn Terfel, i'w wreiddiau i roi anrheg Nadolig i'r gwylwyr yn Canrif o Gân lle canodd rai o ganeuon ei ieuenctid, gan gynnwys cerdd dant a fersiwn o Hen Feic Penny Farthing Fy Nhaid.

Y Gainc Osod Bod prawf teg i'w gymeradwyo ar bob cainc a arferir heddiw i bwrpas Cerdd Dant, ac yn unol â'r diffiniad traddodiadol ohoni "ei bod yn cynnwys ffigur a rhedfa% a neilltuolion eraill - bydd iddi ddal y prawf hwnnw, neu fethu.

yr oedd robert griffith yn hollol gywir yn cyfeirio at y ffaith fod david hughes wedi diflannu'n llwyr o gylchoedd cerdd dant, ond serch hynny mae aml i gyfeiriad yn ei farwnadau i'w ddawn fel telynor yn y gymdeithas o wyddonwyr ac arloeswyr peiriannegol yr oedd yn aelod ohoni yn llundain, ac yn wir mae lle i amau a fyddai ei ddyfais bwysig gyntaf wedi gweld golau dydd oni am ei allu fel cerddor.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Daethom ar draws rhwy barc bychan lle y câi hen bobl fynd i eistedd yn yr haul - 'roedd y glaswellt wedi tyfu'n hir, a'r Dant-y-Llew yn drwch.

Yn ôl rhai mae'n grefft sy'n ymddangos ychydig yn hen ffasiwn erbyn hyn ond mae mwy a mwy o bobol ifanc yn cymryd diddordeb yn yr arfer yn ôl trefnydd yr Wyl Gerdd Dant.

canu gwerin, pop, cymanfa, corau, telyn, cerdd-dant a chlasurol - mae'r cyfan, a mwy, ar dudalennau catalog Sain.

Yn St-Suliac, mae stori mai dant rhyw hen gawr yw un o'r meini hirion yno poerodd y cawr y dant o'i geg gyda'r fath nerth nes iddo blannu i mewn i'r ddaear.

Ond nid mater o wylio ffilmiau'n unig mo'r þyl, dim mwy na bod Ascot yn geffylau i gyd, neu'r Eisteddfod yn adrodd a cherdd dant neu Wimbledon yn ddim byd ond tenis.

Jones, Trefnydd y gwyliau Cerdd Dant ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas.

Bod cerdd dant i fod yn un o bynciau arholiadau'r Orsedd am urdd-enwau.

Mae amryw ohonynt yn hoff o ffrwyth y ffawydd a'r wernen, hadau dant y llew a mwyar o bob math.

Cerdd Dant a Chynghanedd yn cael eu llusgo dan brotest i gefn Folfo a'r Babell Lên grand yn lle "i gael y'ch gweld" o'i chymharu â'r hen gwt ieir annwyl a fu.

Ystyried ymhellach y pwnc yn unol â'r addewid a roed yn y "Gornel" i weled a ellir diffinio'r safon o'i osod, ac i roddi iddo ddeheulaw Cymdeithas Cerdd Dant.

Anodd deall y fath ffwdan -- ni fuasai Jackson yn cael llwyfan hyd yn oed yn yr Wyl Gerdd Dant.