Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.
Diau i'w gyfeillgarwch a Lhwyd fod yn ddylanwad ar Rowlands ac yn addysg iddo, ond yr oedd wrth reddf yn fyfyriwr darllengar, cynhwysfawr ei ddiddordeb.
Ymddiddorai'n fawr ym mechgyn darllengar y chwarel a helpodd lawer arnynt ar hyd ei oes.