Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darllenydd

darllenydd

Y mae'r Beibl yn gyfrol gorffol ac er bod rhannau allweddol ohoni'n siarad yn uniongyrchol a chlir wrth y darllenydd, y mae llu o bobl, arferion, geiriau ac athrawiaethau y mae angen cymorth i werthfawrogi eu harwyddocâd.

Trewir y darllenydd yn syth gan ddiwyg deniadol y llyfr.

Cawn Kate Roberts, yn ei beirniadaeth, yn eu rhybuddio i gofio y gallai gormod ohonynt dagu'r arddull a rhwystro'r darllenydd rhag

Arweiniad i hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru, ar gyfer y darllenydd cyffredin.

Nid oes yna yr un stori wan ac fe yrrir y darllenydd ymlaen gan yr awch i ddarllen mwy a mwy.

Ceri Davies, darllenydd yn Adran y Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, biau'r geiriau a hynny mewn cyfrol am John Davies o Fallwyd yn y gyfres Llên y Llenor.

I gynorthwyo'r darllenydd y cyhoeddodd Charles y Geiriadur Ysgrythyrol.

Y peth sy'n taro'r darllenydd heddiw am y datganiad hwn yw ei amwysedd.

Yn lle bod tro confensiynol (yn null arferol Mihangel Morgan) i'w gael yn unig yn y stori, fe geir hefyd, yn y chwedl anacronistig, Sionyn â'r Ddraig, yr awdur, ie, yr awdur, yn ddigon annisgwyl, yn siarad â'r darllenydd.

Ond yn fwy na hyn, y mae eu gweithiau yn dangos eu bod yn barod i drin y llenyddiaeth honno fel rhywbeth byw, rhywbeth ac ynddo neges ar gyfer y darllenydd modern.

Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy'n teimlo'n gyflawn ynddo'i hun gan adael y darllenydd felly'n sychedu am fwy; yn rhwystredig, mae'n angenrheidiol darllen ymlaen.

Rhywbeth arall sy'n denu sylw'r darllenydd yw fod sefyllfa'r cymeriadau - a'r cymeriadau ynddynt eu hunain - yn ennyn cydymdeimlad ac fe ellir uniaethu â nhw yn aml.

Tynnodd Gruffydd ei Nodiadau cyntaf i ben gan broffwydo y byddai'r mater yn cael sylw llawnach maes o law a chyfeiriodd y darllenydd at erthygl R.

Ac weithiau, yn fwy diddorol efallai i'r 'darllenydd cyffredin' nad yw'n arbenigwr ar y clasuron ei hunan, cawn gyfle i weld yn glir beth oedd agwedd y beirdd hyn at y clasuron a'r hen fyd.

"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.

Yn wir, mae'r neges yn glir ar ddiwedd pob stori fwy neu lai, gan fodloni'r darllenydd am ei fod yn derbyn atebion ac nad yw'n cael ei adael yn rhwystredig.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Gobeithiaf y bydd yn damaid bach i aros pryd ac yn ddigon i godi blys ar y darllenydd i fynd ati i chwilota drosto'i hun yn nechrau'r haf.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon naïf a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.

"Taflwyd hotel wag at yr Arlywydd Nixon," meddai darllenydd un tro, gan hau'r amheuaeth yn syth ei fod yn taro'r botel ei hun !

Er na ellir dweud, hwyrach, fod dylanwad uniongyrchol y clasuron yn amlwg iawn bob amser yn eu gwaith hwy, y mae yno yn ddiamau, ac ni all darllenydd sydd ei hunan yn gyfarwydd â'r clasuron fethu â sylwi arno.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Mae'n llwyddo i agor ei chwedl yng Nghaerllion, cyflwyno ei arwr a mynd ag ef i Gaerdydd a'i gadw yno; ond wedi tynnu'r darllenydd yn ôl i Gaerllion mae'n anfon Edern o Gaerdydd i'r llys ac yn ein cadw ni, ei gynulleidfa, yno nes i Geraint ac Enid gyrraedd ac ymbriodi.

Eisoes, y mae'r geiriau yn y rhychiau yn duo a mynd yn aneglur iawn i'r darllenydd.

Os yw hyn yn annerbyniol i Mr Thomas, efallai y gallai gynnwys cyfeiriadau at y ddwy gyfrol fawr o weithiau Llwyd ochr yn ochr â'i gyfeiriadau presennol i gynorthwyo'r darllenydd.

Ar ôl cael ei ddychryn wrth gyflwyno'i raglen gyntaf ar deledu aeth un o newyddiadurwyr mwyaf gwylaidd ein cyfnod i olygu newyddion i'r BBC Yn fuan wedi cyrraedd yno, ac yntau'r prynhawn hwnnw wedi bod yn paratoi'r newyddion Saesneg, aeth i'r stiwdio sain gyda bwletin cyflawn dan ei gesail i ganfod nad oedd y darllenydd arferol wedi cyrraedd.

Mae hyn eto'n gadael y darllenydd yn rhwystredig a'r unig ateb yw darllen ymlaen gan obeithio am stori fer hollol gyflawn sydd ddim am chwarae triciau bfwriadol â'r darllenydd.

Ond nid mor aml y bydd ein testunau gosod yn ceisio cyfleu i'r darllenydd beth yw gwir natur economi.

Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

m : wrth gwrs, chwarae gyda gyda'r naratif yr ydw i yn dirgel ddyn, a chwarae gyda'r darllenydd y darllenydd llengar a ffilmgar ) yn bennaf.

Fel Luther, nod Tyndale oedd cyfieithu i iaith a fyddai'n gwbl gyfarwydd i'r darllenydd cyffredin.

Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.

Rhoi ei farn trwy ddangos yr ochr arall i'r geiniog, fel petai, a wna'r awdur ac nid oes rheidrwydd I'r darllenydd i gytuno ag ef o gwbl.

Mae llawer o hyn yn ddigon credadwy fel dehongliad, dybiwn i, er na ddisgwylid i'r darllenydd briodoli symbolaeth o'r fath i feddwl - ymwybodol, o leiaf - awdur neu awduron Culhwch ac Olwen.

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.

Wedi i'r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy'n ddealladwy ac apelgar i'r ysgolhaig ac i'r darllenydd cyffredin.

mae ann griffiths yn llawn adleisiau i'r darllenydd o gymro / gymraes.

Yr oeddwn i bob amser wedi ystyried y gyfres, Llên y Llenor, yn llusern i oleuo'r darllenydd cyffredin - cymwynas werthfawr yn achos y llenor arbennig hwn.