'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.
Fodd bynnag, bu'r brotest symbolaidd a'r ddameg yn effeithiol, a throes y storm yn gyfrwng i ddangos maint 'cariad y darllenwyr annwyl tuag at ein cylchgrawn'.
Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.
Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.