Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarganfod

ddarganfod

Un sylw ar gyfer yr academyddion cyn symud ymlaen - y mae pwysigrwydd neilltuol i lên gwerin cyfoes am ei fod yn cael ei astudio yng nghyd-destun y gymdeithas a'i creodd, ac felly yn ei gwneud hi'n haws i ddarganfod amcan neu bwrpas y stori neu'r gred - a thrwy hynny ddeall rhyw gymaint am ein cymdeithas a ni'n hunain ac am rôl llên gwerin drwy'r oesoedd.

Dyma sut y dychmygodd Stephen Spielberg yn ei ffilm Jurassic Park y gallai dinosoriaid gael eu hail-greu heddiw - drwy ddarganfod beth oedd y wybodaeth enetig yn eu DNA, ac yna trosglwyddo'r wybodaeth enetig yma i wy anifail arall.

Ffonio Ms Xia i ddarganfod pryd mae'r gwyliau mis Mai.

Ond erbyn canol y ganrif yr oedd Ymneilltuwyr Cymru'n dra awyddus i ddarganfod arwyr.

Trwy ymddiried yn sofraniaeth ei reswm gallai dyn ddarganfod rhyddid yn ei feistrolaeth tros bwerau Natur.

Mae ffordd dda o ddarganfod a yw defnyddiau yn dryleu ai peidio.Disgleiriwch olau o fflachell mewn ystafell dywyll.

Efallai y byddai Mr Thomas yn gwneud gwell chwarae teg ag ef ei hun petai'n dileu'r bennod hon neu ei hailysgrifennu o'i chwr - ar ôl iddo ddarganfod dull priodol i drafod y dystiolaeth.

Dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon i ddarganfod mwy am y ffordd mae'r BBC yn cael ei redeg yng Nghymru, a sut i gysylltu a ni.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwneud llawer o waith i ddarganfod y rhesymau dros ostyngiadau yn nifer rhai adar.

Mae eu hawydd i ddarganfod pethau drostynt eu hunain wedi eu harwain i beryglon mawr - ond weithiau bu'n gyfrwng datrys dirgelwch hefyd.

I ddarganfod faint o ser y gallwn eu gweld trwy ddeulygadion o'i gymharu a'r nifer a welwn a llygad noeth, gallwn wneud y cyfrifiad canlynol.

Cafodd y deunydd ei ddarganfod o dan ran o Barc Arfordir y Mileniwm, hen safle Pwerdy Bae Caerfyrddin.

Nid wyf wedi llwyddo i ddarganfod fawr o hanes yr ysgol hon er fy mod yn gwybod bod rhai o ferched Llannerch Gron, chwiorydd fy nhaid, wedi bod yno.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Credai ef mai gweithred o eiddo rhagluniaeth oedd y Diwygiad Protestannaidd ­ edrychai ar Eglwys Loegr fel adran o'r wir eglwys, a bu'n locs iddo ddarganfod fod Newman mor feirniadol o'r Diwygiad â Hurrell Froude.

Mi gewch chi ddarganfod hynny drwy ddarllen y llyfr; digon yw dweud i'r creadur bach newydd yma lwyddo i swyno'r darllenwyr yn ty ni.

Yn syml, buasai yn amhosibl i'r holl adar ddarganfod digon o fwyd yn Affrica.

Y prif broblem oedd dull yr ymchwiliad; eisoes bu sawl ymdrech i ddarganfod gweddillion llongau yn aflwyddiannus oherwydd y cerrynt cryf a maint y Swnt ei hun.

Gofalwyd gwneud y cyfan yn gyfrinachol, rhag ofn i'r Coraniaid ddarganfod beth oedd yn digwydd.

Yr enw ar ddefnyddiau fel y rhain megis gwydr barugog, polythen trwchus, niwl a rhai mathau o grisialau naturiol megis cwarts er enghraifft, yw defnyddiau tryleu.A fedrwch chwi ddarganfod unrhyw bethau tryleu?

Os am ddarganfod rhagor am yr ysgol, cliciwch isod.

Unwaith eto defnyddiodd ei dechneg glodwiw o osod actorion proffesiynol ochr yn ochr â phobl leol gan ddarganfod stôr o dalent yn ei sgîl.

Doedd dim modd i Gymru ddarganfod y rhythmau ar tempo cyflym on nhw am eu cael oherwydd y dyfarnu; 22 - 8 o blaid y tîm cartre oedd cyfanswm y cicie cosb ac fe ddaeth hanner rhai Cymru yn y chwarter olaf.

Defnyddiwch y Cyfeirydd Busnes i ddarganfod mwy am gwmniau yng Ngogledd Cymru.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

Canys yn y dyddiau cyn dyfod i feddwl dyn ddarganfod trydan, arferid tynnu'r trenau i ben y bryn gyda chymorth mul.

Daeth grūp o blant Pontypridd i Swyddfa'r Cyngor i ddarganfod sut mae'r cyngor yn ceisio dod o hyd i bobl sy'n gadael ysbwriel ar ochr y ffordd.

Anaml y deuir ar draws mynegiant gan grediniwr iddo ddarganfod cariad maddeuol ac achubol yng Nghrist.

Mae seryddion cyfoes yn defnyddio pob math o offer i'w galluogi i ddarganfod a deall mwy a mwy o gyfrinachoedd y bydysawd.

Mae gwir angen cynnal ymchwil bwrpasol i ddarganfod ffyrdd deniadol ac effeithiol a fydd yn ysbrydoli a symbylu pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn fwy naturiol.

Gellir bod yn weddol siwr bod yr adar yn defnyddio'r haul a'r sêr i ddarganfod y ffordd.

Taboo. Gemau gwych i ddarganfod beth yw safon iaith y ddau.

Er na wyddai JR am chwedl Odo yn bledu'r tai, ac er na fu ym Mol y Mynydd ond unwaith o'r blaen, ni chafodd drafferth i ddarganfod llidiart pren Nefoedd y Niwl.

'Does ond gorfod mynd i rai o draethau Cymru i ddarganfod y broblem, sef llygredd.

Yr unig ffordd i ddarganfod hynny ydyw trwy eu cael i siarad yn eu hiaith eu hunain.

Fe gre " ir 'byd' newydd ym meddalwedd y cyfrifiadur - byd lle mai'r amgylchfyd yw'r broblem y mae angen ei datrys, ac esblygiad yw'r broses o ddarganfod yr ateb.

`Ogof does neb yn dod ohoni'n fyw - mae'n rhaid fod rhywbeth sy'n werth ei ddarganfod yno.' `Mae hyd yn oed rhywun fel fi wedi clywed am y lle hwn,' meddai'r meddyg.

'Does dim rhaid dweud sut y teimla'r dyn o ddarganfod ei wraig yn cyboli fel hyn tra'r oedd ef yn gweithio'n galed.

Dychwelodd Emma i Gwmderi a chwalwyd ei byd unwaith eto wrth iddi ddarganfod fod Diane wedi bod yn anffyddlon i Reg.

Yn bersonol, dyna lle gwnes i ddarganfod gwir ysbryd y wlad yma.

Mae'n anodd esbonio beth a barodd imi ysgrifennu'r llyfr hwn yn fy henoed, ac eto bu'r ysfa a'r dyhead ynof ers blynyddoedd i groniclo gwaith dwylo'r gorffennol yn y cylchoedd hyn, ac i ddarganfod mewn dogfen a chofnod ôl yr ymdrechion i wella amgylchiadau bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Aeth Derek ati i geisio darganfod pwy oedd ei dad a chafodd ef a'i hanner chwaer, Carol, sioc fawr wrth ddarganfod mai'r cyn-gynghorydd Herbert Gwyther oedd ei dad.

Cafodd Jason sioc o ddarganfod fod Graham wedi ceisio cadw mewn cysylltiad ond fod Diane wedi celu'r cwbl.

Mae gwaith ymchwil arall yn tueddu i brofi bod gan aderyn allu ychwnaegol i ddarganfod y ffordd, a'i fod yn gallu defnyddio maes magnetig y ddaear.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

Ni thalai i'r llygad fod yn rhy orfoleddus wrth ben llyfrau rhag ofn i'r Doctoriaid craff ddarganfod imi sicrhau rhywbeth na ddigwyddasai iddynt hwy eu gweld.

Yn ffodus mae'r technegau diweddar o ddefnyddio cyfrifiadurion a phrosesau delweddu wedi galluogi seryddwyr i ddarganfod llawer o'r galaethau estynedig fel C.

Dinas a choleg Caerdydd yw man genedigaeth y cylchgrawn hwn, yma y gwelwyd bod tir newydd yn ein disgwyl yng Nghymru, i'w ddarganfod gennym a'i weithio a'i feddiannu, er lledu teyrnas diwylliant Cymreig.

* gynnal sesiynau adborth cyson yng nghanol ac ar ddiwedd gwersi a fyddo'n rhoi cyfle iddynt: -ddarganfod pa syniadau a chysyniadau sydd yn anodd i'r disgyblion eu meistroli ac sydd angen sylw pellach, -ddarganfod pa unigolion sydd angen cynhaliaeth a chymorth ychwanegol (a hynny mewn amgylchiadau caredicach i'r disgybl na sefyllfa athro-ganolog, ddosbarth cyfan);

Cafodd Emma siom o ddarganfod fod gan Madog hefyd gefndir o gyffuriau.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Y Maiaid, yr Astecs a'r Taltecs yn Ne America ydi'r rhai cynta y gwyddom ni amdanyn nhw i ddarganfod rhinwedda siocled.

Ond ar ôl cyrraedd y swyddfa, efo pob stamp a llofnod bosibl, dyma ddarganfod nad oedd y person hollalluog arbennig efo'r goriad ar gael tan y prynhawn.

Ar y pryd, edrychai yn beth digon rhwydd i ddarganfod y peirianwaith sylfaenol a reolai weithgaredd silia.

Ond pa Gymro na wridodd wrth ddarganfod bod cynifer o eiriau y tybiasai eu bod yn Gymraeg yn tarddu o Saesneg?

Efallai y gall y cwmni%au rheini sy'n cynnig rhisgl coed ar gyfer ei balu i fewn i bridd neu ei osod yn haen o gwmpas planhigion yn tyfu i helpu cadw gwlybaniaeth o gwmpas eu gwreiddiau, ddarganfod dull i addasu'r rhisgl at yr un pwrpas a mawn.

Doedd gen i ddim gobaith koala i ddarganfod gwir ysbryd Awstralia yn Sydney felly mi benderfynon ni hedfan tua 3500 km I Darwin yn y Northern Territory.