Ac i lenwi'r ceudod, beth am arddangos anrheg Modryb Matilda, sef 'sgathriad wedi'i fframio i ddathlu agoriad swyddogol Twnnel Conwy.
Mae rhaid cofio fod yma ddathliad arall sy'n llawer mwy priodol i'r Gwladfawyr - Gwyl y Glaniad, ar Orffennaf 28 i ddathlu glaniad y Cymry cyntaf ar y traeth ym Mhorth Madryn.
Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach tystiodd eto i'w dryblith yn ei gerdd 'Ewch, a chloddiwch Fedd i Mi', ac oni bai am ymgeledd ei ail wraig, Rachel, ni fuasai wedi byw i ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed.
Dyma ddechrau newydd ac euthum ar raglen 'Heddiw' y BBC o Fangor y noson honno i ddathlu yn gyhoeddus.
Rheswm da, felly, dros benderfynu mai i'r Almaen y dylair gêm ddathlu yn 06 fynd.
Roedd yr Uwch-gynhadledd yn gyfle i ddathlu a chroniclo.
Prin fu'r achosion mawr i'w chefnogwyr ddathlu dros y blynyddoedd.
Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.
Cynhaliwyd cinio Nadolig yn y Clwb a hefyd cafwyd noson o ddathlu, gydag adloniant wedi ei drefnu gan y Pwyllgor Merched.
Yn amlwg mae gan yr opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm fformwla lwyddiannus wrth iddi ddathlu 25 mlynedd.
Wedi llwyddo i gyrraedd man dewisol rhoddodd un morgrugyn bigiad da i ddathlu ei fuddugoliaeth a dyna'r eiliad y gollyngodd Odo lond dwrn o dai yn strim-stram-strellach ar hyd y rhos.
Un cysur sydd yna, nad oes unrhyw fwriad i ddathlu cychwyn go iawn y mileniwm gyda sbloet fel un y llynedd! A fydd yna ddim ail-agor y Dôm a thrio eto.
Wyddon ni ddim sut i ddathlu, wyddon ni?
Rwy'n credu i mi gael fy ngwahodd gan Alun Evans a'i gydweithwyr i gymryd at y gwaith o baratoi cyfrol ddathlu o ryw fath am i minnau unwaith fod yn gynhyrchydd gyda'r Gorfforaeth.
Eu gwahodd nhw am bryd ddydd Mercher i ddathlu fy mhen-blwydd.
'Bydd y gangen a gollodd y mwyaf o bwysau, o ran canran, yn ennill hamper o fwydydd iach, i ddathlu!
Llwyddodd carfan o arlunwyr i ddryllio cynlluniau yn ddiweddar i gynnal sioe deithiol i ddathlu ymwybyddiaeth o Gymreictod gan ei bod yn gweld y sioe yn fygythiad iddynt'.
Mae yna dros 2,000 o bobol yn cystadlu eleni wrth i'r wyl ddathlu ei phen-blwydd yn 54 oed.
Mae'n ffasiynol iawn y dyddiau yma i gwyno bod y Nadolig yn cael ei ddathlu mewn ffordd sy'n llawer iawn rhy faterol, a bod gwir ystyr yr ŵyl wedi ei hen anghofio gan y rhan fwyaf ohonom ni.
Felly, mae yma ddathlu dwbwl.
Mae'n siwr i nifer ohonoch ddathlu troad y mileniwm gyda'r tri ohonynt yng Nghaerdydd ond ers hynny mae Manic Street Preachers wedi bod yn eithriadol o dawel... hynny ydi, tan rwan.
Wrth ddathlu pen blwydd stiwdio Bangor yn hanner cant oed, cofio yr ydym am gyfraniad Bangor i un arall o'r sefydliadau hanfodol hynny, sef cyfundrefn radio a theledu cenedlaethol.
Gorfod gohirio pryd gyda'r myfyrwyr gan fod yr Adran Saesneg wedi trefnu pryd i Kate a minnau i ddathlu fy mhen-blwydd fory.
Hyn am ddau reswm, un am fod neb o gwmpas i ddathlu, a'r llall am fod neb o gwmpas i drefnu'r dathliad.
Erbyn heddiw mae yna elfen o'r paganaidd yn ogystal â'r Cristnogol yn rhan o'n ffordd ni o ddathlu'r Nadolig.
Daeth y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth i Gaerdydd i ddathlu Wythnos Wyddoniaeth eleni, ac, yn awyddus i roi'r pwnc o fewn cyrraedd pawb, dangosodd BBC Cymru Mad on Science, a gynhyrchwyd gan Cambrensis, a sicrhaodd brwdfrydedd heintus y cyflwynydd Gareth Jones gynulleidfa fawr i bwnc difrifol.
Maent yn dy wahodd i ddychwelyd i ddathlu lladd y baedd.
Doedd tîm cryfa Caerdydd ddim ar y cae neithiwr ond doedd hynny'n poeni dim ar gefnogwyr Merthyr wrth iddyn nhw ddathlu buddugoliaeth gofiadwy.
Un o fentrau mwyaf cyffrous y flwyddyn oedd y darllediad radio cydamserol rhwng BBC Radio Cymru a Phatagonia i ddathlu Dydd Gwyl Dewi 1999.
o'r diwedd rwyt ti wedi cyrraedd y nod, a mae hon yn wythnos i ddathlu.
Beth oedd yna i'w ddathlu'n yr harbwr.
I ddathlu hanner can mlwyddiant gwaith Cyngor Ewrop edrychodd y rhaglen arbennig ar waith y Llys Hawliau Dynol Rhyngwladol, gan gynnwys ffilm o garchardai yn Rwsia ac achosion o fynd yn erbyn iawnderau dynol yn Nhwrci.
Cafwyd eitemau gan y disgyblion a chanwyd penillion a gyfansoddwyd gan Miss Delyth Jones i ddathlu'r amgylchiad.
Mae cystadleuaeth ar y gweill hefyd i lunio plat/cwpan i ddathlu'r achlysur.
Bydd yr agoriad yn cael ei ddathlu gyda chyngerdd mawr a deledir gan S4C o Fae Caerdydd, gyda Tom Jones, Shirley Bassey, Charlotte Church a Bryn Terfel yn cymryd rhan.
Yn 1999 y cyrhaeddodd Beti Gwmderi a hynny i helpu Dyff a Kath i ddathlu ennill y loteri.
Yn ôl y sôn, yr oedd John Edmunds â'i fryd ar ddod â thipyn o fywyd i Borth Iestyn ac am, ddechrau gwneud hynny trwy ddathlu hanner can mlwydd o ryw lun o hunan-lywodraeth ym mywyd yr harbwr.
Daeth y Clwb i fodolaeth yn sgil criw o Gymry yn trafod sut i ddathlu Dydd Gwyl Dewi cynta'r mileniwm.
Cyfrol i ddathlu pen-blwydd yr arlunydd enwog yn 80 oed.
Yn ei wynebu, roedd band pres yn canu alawon addas i ddathlu pen blwydd annibyniaeth Ariannin.
Pa rwystr oedd i wreng a bonedd ddathlu'r žyl yn llon?
Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps.
Fe'i plesiwyd, fodd bynnag, gan bryddest 'farddonol' Glanffrwd, pryddest faith a rychwantodd y canrifoedd wrth ddathlu goludoedd y Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas yma yn cynnal swper ac adloniant i ddathlu Gwyl Dewi Sant ond nid ar y diwrnod priodol.
Digwyddiad arbennig iawn arall i'r gerddorfa oedd darllediad cyntaf gwaith Jenkins, Dewi Sant, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer BBC Cymru i ddathlu'r mileniwm, ar y teledu.
Ym mis Mai 1999 cymerodd y Corws ran yng Nghyngerdd Lleisiau'r Genedl ym Mae Caerdydd, i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd Robin Stead allan ar y pryd ond daeth Sioned a Ben at y tri i ddathlu a chynnig llwncdestun i Rhian, Silyn a Ceri.
Daw hyd yn oed y mynachod allan o'u hymguddfa i ddathlu'r amgylchiad ac i ymuno gyda thrigolion eraill y wlad.
Ac yn y rhyfel hwnnw, yn ystod y blynyddoedd trist cyntaf, fe ddaeth yn bryd i ddathlu hanner canmlwyddiant y capel.
Tra bo Plaid Cymru mewn penbleth nid yn unig pwy a gaiff i'w harwain ond sut y caiff ei harwain y mae ei chefnder yn yr Alban yn paratoi i ddathlu.
I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi un o'r nofelau difyrraf i ymddangos yn Gymraeg ym marn llawer, y penderfynais addasu O Law i Law ar gyfer cynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith eleni.
Cafwyd parti bach i ddathlu'r achlysur yng ngwesty Eryl Mor.
Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.
Y petha' sy'n bwysig y dyddia' yma yw gwario cymaint ag a allwn ni ar ddathlu a phrynu anrhegion drud...
Roedden nhw ychydig bach yn lwcus yn erbyn Yr Almaen ond ar ôl disgwyl 35 mlynedd am fuddugoliaeth dros yr Almaenwyr, maen debyg fod hawl gan Loegr i ddathlu.
Noson i ddathlu hanner canrif o addysg gorfforol ddechreuodd fel Coleg Hyfforddi Dinas Caerdydd - clwstwr o hen gutiaur fyddin ar Barc y Waun.
Ddiwrnod neu ddau wedyn fe glywsom fod pobl yn cael croesi'n ôl unwaith eto, ac fe aethon ni i gyd allan i ddathlu `grym y wasg'!
doedd hi ddim wedi bwyta mewn tŷ bwyta ers talwm, felly penderfynodd hi ddathlu'r swydd newydd trwy fynd allan am y noson.
Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.