Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeilliai

ddeilliai

Ystyrid ei bod, drwy ei g^wr Ernest Jones, cofiannydd Freud, yn gysylltiedig â'r budreddi a ddeilliai o Fienna.

yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.

Ac yn ail gallwn ddychmygu'r propaganda senoffobig a ddeilliai o du'r wasg adweithiol.

Roedd canlyniad y fath dlodi, a'r diffyg preifatrwydd neu lendid a ddeilliai ohono, ac effaith hynny ar foesau'r bobl, yn berffaith amlwg i Symons.

Diau fod yn hyn awgrym o'r anesmwythyd cyfoes fod twrnameintiau, wrth dyfu'n achlysuron cymdeithasol arddangosiadol, yn colli peth o'r budd a ddeilliai

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Tra oedd Martha Jones, sef y forwyn fach, yn gwneuthur munudiau trwy gil drws y parlwr, o'r lle y tarddai miwsig â mwg tybaco, anadlwn innau'n helaeth o'r aroglau cinio a ddeilliai'n chwaon hyfryd o'r gegin gefn.

Yn y padhâ (a ddeilliai o pdh) y rhyddhawyd y sawl a fu'n gaeth trwy i rywun arall dalu ffi drosto: Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai ...

Taflwr crwyn banana ymenyddiol oedd y dyn, ac wrth ei fodd yn cuddio i gael gweld y boen a ddeilliai o'r llithriad.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.