Dewch i ni ddelio yn gyntaf â'r awgrym 'ma y dylid rhoi'r gorau i ymgyrchu.
Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli a'r Prif Swyddog perthnasol neu Reolwr y Gwasanaethau Uniongyrchol i ddelio'n derfynol ag achosion o'r natur hwn.
Gwyddwn, cyn y gallwn dderbyn y gwahoddiad, bod yn rhaid i mi ddelio â'r cymhellion yn fy nghalon.
Ni all deddfau Addysg Seisnig ddelio gyda'r materion hyn.
Rhaid felly sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bobl ddefnyddio'r iaith yn naturiol wrth ddelio â'i gilydd, wrth hamddena neu wrth eu gwaith.
(g) Mae'n Duw ni yn ddigon mawr i ddelio â'n camgymeriadau ni mewn modd fydd yn ogoniant i'w enw Ef, ac yn gysur i ni.
O fewn pob thema ceir cyfres o benodau sy'n rhedeg yn gronolegol, ac mae modd i'r athro a fyn ddelio â chyfnod yn ei gyfanrwydd ddethol y penodau perthnasol o fewn pob thema.
Yn ôl Rhodri Morgan mi roedd hyn yn anarferol ac yn anffodus" ac nad oedd yn gwneud y gwaith o ddelio â"u cais yn ddim haws.
Does gyda nhw na phwyllgor na pholisi i ddelio â'r maes enfawr yma.
Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.
Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.
"Mae'n well gen i ddelio gyda phroblem cyn iddi ddigwydd~" meddai.
Ac er mwyn i'r Gymraeg ddod fwyfwy'n rhan naturiol o fywyd yng Nghymru, mae angen iddi fodoli fel iaith sy'n cael ei defnyddio'n gyson gan bobl yn eu bywyd beunyddiol: mewn gwaith a hamdden, yn ogystal ag wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus, gwirfoddol neu breifat.
Cynnig i ddelio ag ychydig egwyddorion sydd yma, "i gychwyn meddwl a thrafodaeth" ynglŷn â'r "egwyddorion a ddylai fod yn bennaf mewn gwareiddiad Gwyddelig".
Aeth Haydn yn groes i'w egwyddorion pan fenthycodd arian o'r capel i helpu Beti i ddelio gyda'i phroblemau ariannol.
Dylid felly roi i gyrff a chwmnïau y cyfleusterau, y gefnogaeth a'r anogaeth i ddarparu ar gyfer pobl sydd yn dewis defnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddelio gyda hwy, ar yr un sail â phetaent yn dewis defnyddio'r Saesneg.
er dwi ddim yn gwybod cweit sut i ddelio ag o yn aml iawn - dwi braidd yn swil.
Yna, cyhoeddodd ei fod am fynd i nôl yr heddlu i ddelio â ni ac i ffwrdd â fo.
Dylid hefyd roi i'r cyrff a'r cwmnïau hynny y cyfleusterau, y gefnogaeth a'r anogaeth i ddarparu ar gyfer pobl sydd yn dewis defnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddelio â hwy.
Fel rhan o'i ymgyrch i ddelio ag ymddygiad anghymdeithasol mae'r llywodraeth yn ystyried cynlluniau i gosbi perchnogion tafarndai anghyfrifol.
Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn y siop gyda Denzil.
(c) Nad oedd rhybudd cau yn cael ei ddiddymu os penderfynwyd mai dyma fyddai'r ffordd fwyaf boddhaol o ddelio gyda'r eiddo.
Dyna pam fod angen Deddf Iaith Newydd i ddelio â bywyd fel y mae yn y ganrif newydd.
Trwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn sy'n anelu at fod cystal â'r hyn a geir yn Saesneg, a thrwy wahodd eu cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddelio â hwy, gall y sawl sy'n darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg gyfrannu'n helaeth at y broses o newid ymddygiad.
Mae Dewin yn gwmni sy'n arbenigo ar bob agwedd o ddelio â chyfrifiaduron - gan gynnwys trin a thrafod systemau, cronfeydd data, cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol cwmniau cyfan, a chreu safleoedd gwe syml a chymhleth.
Rhaid i'r tri ohonom drafod y ffordd orau o ddelio efo Matthew." "Ddowch chi, syr?" gofynnodd Sam.
Gofyn pob math o gwestiynau imi - sut i ddelio â phlant sy'n cambyhafio, sut i wneud gwersi gramadeg yn ddiddorol, sut i dynnu lluniau diddorol ar y bwrdd du...