Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddewr

ddewr

Mae llawer iawn o wir - nid caswir, dim ond gwir plaen - yn yr erthygl ddewr hon, a gyffrodd hyd at eu sodlau nifer o arweinwyr Cymreig y dydd.

Ymleddaist yn ddewr ond yn ofer.

Brwydrodd y clwb o Gymru yn ddewr yn y gwres llethol ond fe dalon nhw'n ddrud am fethu dau gyfle yn yr hanner cyntaf.

Ar y cyfan cânt eu portreadu yn ddynion gyda grym ewyllys cryf, yn benderfynol, yn ddewr, yn llawn o hunan ymddiriedaeth a hunan-gadwedigaeth.

Dyna i ti pwy fu yma!" gwaeddodd Deio, "does yna neb arall." Geneth ddewr oedd Cadi, ond fe aeth llaw oer ofn am ei chalon o feddwl fod rhywun wedi bod mor hy â mynd trwy'r tŷ tra oeddynt i ffwrdd.

Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.

Bu yn Gynghorydd lleol am flynyddoedd,a mawr a fyddai ei ymdrech dros rai achosion agos at ei galon, a safai yn ddewr heb ddisgwyl gwen nac ofni gwg.

Bu Edna'n dioddef yn ddewr a thawel, ac mi lwyddodd i gynnal ei sirioldeb er gwaetha'r amserau aml roedd yn rhaid iddi fod yn yr ysbyty.

Oherwydd ei fod yn drwm ei glyw byddai'r mwyaf beiddgar yn ein plith yn manteisio ar y ffaith honno er mwyn difyrru ein cyfoedion mwy llywaeth - ond roedd yn hanfodol gwneud yn siwr eich bod yn eistedd yng nghefn y dosbarth cyn cymryd cam mor ddewr a herfeiddiol!

Rhaid, felly, o y bleiddgi'n ddewr ac yn gryf a dyna'r math o gi y bu'n ystyried ei ddewis am gyfnod.

'Wrth gwrs y bydda i'n iawn,' atebodd Siân yn ddewr - er nad oedd yn teimlo'n rhy ddewr.

Ond ni hidiai am hyn - safodd yn ddewr yng ngþydd pawb a darn mawr o brenuwch ei ben, a'r llythrennau WN wedi'u torri ynddo.

Gan ddewr dywysogion, gwlatgarwyr o fri.

'Mae wedi bod yn ymladd yn ddewr iawn,' meddai'r ficer.