Wrth ddefnyddio'r fath eiriau tueddid i ddibrisio'r ymdrech a wnaed ym Mhwllheli, er, o wybod pwy oedd y golygydd, derbyniaf nad dyna oedd mewn golwg.
Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.
Mae digon o ddibrisio bywyd fel y mae.