Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddihareb

ddihareb

'Ym mhob gwlad y megir glew', medd yr hen ddihareb, a thristach na thristwch yw gweld dynion disglair yn ein gadael a hwythau ym mlodau eu dyddiau.

Y ddihareb gyntaf y mae'r Kurdiaid yn ei dysgu i'w plant yw: 'Does gan y Kurd ddim ffrindiau.' Un o'r Kurdiaid enwocaf oedd Saladin, a fu'n ymladd dros Islam yn erbyn Richard the Lionheart, brenin Lloegr.

Ie, wylwch ddagrau gwaed, wylwch eich llygaid allan tros yr adyn hwn, y truanaf o'r holl ddynion, yr hwn sydd yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith ym mhob man.

Un ai 'roedd yn ddiddeall neu'n ddihareb o groendew, meddyliodd Sioned wrth geisio gwenu arno.

Mewn dull syml ond trawiadol, roedd cymeriadau'r straeon yn creu dihareb a fyddai'n aros yn y cof, a byddai'r ddihareb honno yn cael ei haddasu at eu byw bob dydd.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.