' Fe allwch ddirnad yr effaith gafodd peth felly ar hogyn o Garreg-lefn ...fe fyddwn yn rhan o Tseina mewn ychydig flynyddoedd'.
Y mae'r Cymry Cymraeg yn gallu dirnad sut beth yw bod yn Sais ond ni all Sais ddirnad sut beth yw bod yn Gymro Cymraeg.
Ni thalai twtio a chymhennu hwnt ac yma; rhaid oedd newid holl syniad beirdd a beirniaid Cymru am hanfod barddoniaeth, a chael ganddynt ddirnad pethau newydd.
Ni allai Llio ddirnad beth ydoedd ac yna gwelodd ei fod yn codi i fyny.
Oni allai ddirnad beth oedd hi'n ceisio ei ddweud?
Byd fin de siecle ydyw, er fod rhai o'r straeon wedi eu sgrifennu ymhell cyn y nawdegau; byd blinedig, byd lle mae'r unigolyn yn ei chael yn anodd i ddirnad ei le a'i bwrpas.
Pa feddyliau bynnag a fartsiai drwy ben y milwr y diwrnod hwnnw, ni fedrai byth ddirnad ymlyniad y gwladwr wrth ei fro, na mesur dymder ei deimladau wrth glywed fod rhaid iddo ei gadael.
Mae ganddo rhyw awdurdod i fedru wynebu bywyd yn hyderus, a'r modd i ddirnad rhwng yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir.