Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddistaw

ddistaw

'Y bwa,' meddai Jonathan yn ddistaw.

Disgwyliodd pawb yn ddistaw wrth i'r munudau ymestyn yn hir, hir.

Dwi'n rhamantydd wrth gwrs, ond dwi'n hoffi meddwl cyn i ddyfodiad y peiriannau, er bod y bobl mor brysur ac yn gorfod gweithio mor galed, roedden nhw'n gweithio'n ddistaw yn y meysydd ac yn cael rhyw gyfle i ymglywed a natur fel petai.

Ar y dechrau penderfynais mai taw piau hi - a dioddef yn ddistaw.

Llongyfarch fy nghefnder, Arwyn Griffiths, ar ei briodas ddistaw, ddiweddar.

Yn y pen draw, waeth faint o waith manwl fydd wedi ei wneud yn ddistaw bach gan swyddogion ac aelodau'r Bwrdd, maen nhw'n gwybod fod llawer yn dibynnu yn y pen draw ar ewyllys gwleidyddol.

'Bydd yn ddistaw, gyfaill, wnei di?' meddai Ffredi'n ddifalais.

Fe'm trawyd heno, wrth edrych o gwmpas y clos, mor wag ac mor ddistaw oedd y sgubor.

Er ei bod yn noson ddistaw yno yn y Cefnfor Tawel, a'r llong heb fod yn ysgwyd llawer, fe lithrodd ei law yn sydyn oddi ar y cloc.

Mor ddistaw yw'r ddeunawfed ganrif ynghylch Llwyd.

Yn ddistaw 'te.' 'Miss Willias, fi sy' 'ma.' 'Y?' 'William Huws...

(Esboniwyd wrthym ar ol hynny nad oedd y gyfraith yn caniatau i unrhyw silff mewn siop fod yn hollol wag.) Mewn un cornel o'r ystafell safai dau giw hir o bobl yn ddistaw ac yn llonydd.

Yr oedd ei dwy gyfnither a'i chefndryd yn meddwl am y tawelwch hwn yn ddistaw bach ac yn edrych arni mewn peth syndod.

Ar y cyfle cyntaf, llithrodd i lawr y grisiau ac ar draws y parlwr yn ddistaw, ddistaw.

Be' wnaethoch chi?' 'Mi afaelais yn y procar, ac mi es yn ddistaw yn nhraed fy sana', y tu ôl i'r drws a gofyn, "What do you want?" a dyma lais dyn yn deud, "Let me in.

Gofalodd pob un blygu'i ben tua'r llawr a disgwyl yn ddistaw.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.

Dechreuodd gyfri'n ddistaw wrth redeg.

Aeth y gwersyll yn ddistaw a chodwyd ambell ddryll.

Cynheuodd olau'r lamp a dehcreuodd grio'n ddistaw.

Roedd ei fys ar ei geg a siarsiai Klon a minnau i ddod gydag ef yn ddistaw.

Ni chlywyd yr un o gantorion neithiwr yn boddi yng nghanol y gerddorfa er yn yr ysbeidiau pan oedd y cantorion yn ddistaw fe glywsom Gerddorfa'r BBC yn gollwng iddi.

Ddaru Ifan eriod gytuno a neb yn ddistaw, nac anghytuno a neb heb dwrw.

Ufuddhaodd pawb yn ddistaw.

Os byddai myfyriwr yn gweiddi gormod neu'n siarad yn rhy ddistaw, fyddai dim llawer o obaith am gyhoeddiad i hwnnw.

Allan yr es i, a chwilio'n ddistaw bach am y tŷ o'r enw Bwlchmelyn, lle y cafodd y Mr Stanley 'na ffeindiodd Dr Livingstone ei eni, medde-nhw.

Pawb yn ddistaw, rŵan.' Wrth edrych dros eu hysgwyddau gallent weld coed y winllan yn cyrraedd bron atynt ac roedd yn gysur gwybod y gallent ddiflannu yn bur sydyn i dywyllwch y coed pe byddai angen.

'Yn ôl,' meddai Pedr, 'mae y Meistr wedi dweud wrthyf am fynd.' Aeth Iago yn ôl at y disgyblion yn bur ddistaw, a moryn mawr yn dod wedyn ac yn taro'r hen gwch nes ei hanner syfrdanu.

Penderfynais fynd i mewn yn ddistaw bach, a fues i ddim yn hir yn darganfod mai dim ond y fi oedd yn y plas.

Yr oedd yn rhaid imi gadw'r llawenydd yn ddistaw i mi fy hun.

Wrth i'r fyddin nesu, aeth y gwerthwyr a'r prynwyr yn ddistaw gan wylio'r milwyr estron yn mynd drwy'r porthdy.

"Mi fedri ddibynnu arna i, Henri," meddai'n ddistaw a daeth y llall ato a'i gofleidio.

Adeilad lle mae gofyn i chi fod yn ddistaw?

Gostyngais hi'n ddistaw i'r afon o'm blaen.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Eisteddai hwnnw'n ddistaw yn y gornel â'i wydryn byth yn wag.

Ae yntau yn ddyn bach mor ddistaw." "~ae'n ddrwg gen i ddweud wrthych chi, Mrs Williams," meddai'r arolygydd, "ond nid dyma'r tro cyntaf i Twm Dafis fod mewn helynt gyda'r heddlu." "Be!

O'r tri siaradwr a wahoddwyd yno, ni fedrai Saunders Lewis fod yn bresennol, ni dderbyniodd Ben Bowen Thomas y gwahoddiad tan ar ôl y cyfarfod, ac felly dyna lle'r oedd DJ Williams, Abergwaun - yr unig siaradwr, ac er mor ddiymhongar ydoedd fe hoffai fedru brolio'n ddistaw mai ef fu'r siaradwr cyhoeddus cyntaf dros Blaid Cymru yn Ne a Gogledd Cymru.

Cyfansoddodd T.Gwyn Jones (Tregarth) gân leddf ar y geiriau, "Mae'r bechgyn wedi mynd i ffwrdd, Mae'n ddistaw hebddynt wrth y bwrdd..." a chenid hi gyda dwyster yn yr Undeb yn fynych.

'Dr Kate,' meddwn i, yn ddistaw iawn, gan feddwl y buasai'n rheitiach i mi fynd oddi yno.

Roedd sawl un, wrth gerdded heibio, wedi datgan yn ddistaw bach ei ryfeddod nad âi'r swp gwlân yn ddim llai o un pen y diwrnod i'r llall, er gwaethaf dyfalbarhad yr hen wraig.

Gwyrai'n ddistaw gan ofalu bod y nyrs arall a edrychai ar ôl y ward yn ddigon pell.

Roeddem mewn ogof wedi'i goleuo gan danau brwyn ar y wal,'roedd fel pafiliwn ac yn ddistaw fel y bedd.

Hwyrach mai'r Brenin Arthur sydd yna!' 'Bydd ddistaw!' sibrydodd Alun gan roi pwniad i Bleddyn yn ei fraich.

Yn y man ebe Ernest: `Harri, 'rydach chi'n bur ddistaw, ond, wrth gwrs, hwyrach y b'aswn i 'run fath fy hun.

"Mae'n bryd i rywun roi bwled yn y cnaf taeog," sibrydodd Jean Marcel yn ddistaw.

'Mi fydda innau'n edrych ymlaen,' meddai'n ddistaw awgrymog.

'Roedd y papur yn dweud ei fod wedi dianc o'r carchar,' meddai'n ddistaw bach fel pe bai arno ofn i rywun ei glywed.

Gallwn glywed y doctor yn stwna y tu ôl i'w sgrin a'i arfau'n tincial wrth iddo ddethol o'i ffiolau a'i chwistrelli a sisial yn ddistaw wrtho'i hunan.

'Wel, bydd ddistaw neu mi fyddi di wedi ei ddychryn gyda'r holl sw^n yna,' atebodd Alun dan chwerthin.

A phe gwelid ein planed fechan ni gan rywbeth yn un o'r galaethau hyn, byddai hithau hefyd yn chwyrnellu draw oddi wrtho yr un mor chwim a'r un mor ddistaw, trwy'r 'mudandod mwyn'.

Safai mewn rhyw stesion bach ddigaon yr olwg, ddistaw fel y bedd, ar wahân i sŵn anger' y trên yn ebychu.

Caeodd ei dad ddrws y cartre a chychwynnodd y teulu'n ddistaw ar hyd y coridor hanner tywyll.

Rhaid oedd cerdded yn reit ddistaw hefyd gan fod sw^n traed yn tarfu pysgod.

'Hwyrach mai i'r tŷ y mae o'n mynd,' meddai Gareth yn ddistaw.

Yna am dri o'r gloch - y Brenin Sior V yn cyfarch ei ddeiliaid, ac Ifan a'i dad a'i fam, ei fodryb Lydia a minnau yn gwrando'n ddistaw fel llygod.Drwy ein plentyndod hapus treuliodd Ifan, Eric a minnau y rhan fwyaf o'n hamser yn chwarae, un ai ar lan y mor neu ar lan afon Soch.

Disgleiriai'r barrug clir ar y coed a'r caeau ac yr oedd pob man yn ddistaw ar wahân i glip-glop y ceffylau.

"Dyna'r anrheg Nadolig orau fedrai neb ei rhoi i'r dref yma." "Mae'n ddigon buan," oedd ateb Marie, yr un mor ddistaw.

Yna bu'r ddau yn ddistaw am funud.

Yn ddistaw bach yr oedd mwyafrif y gwylwyr yng nghastell Dolwyddelan yn casa/ u'r Norman.

Yn ystod y cyfnod yma o tua deng wythnos pan gollent eu plu a thyfu rhai newydd, maent yn ddistaw a llechwraidd gan eu bod mewn perygl oddi wrth pob math o elynion.

Felly, yn ddidrafferth ac yn ddistaw rydych yn gadael y gell gydag arfau'r milwyr yn eich dwylo, yn barod i wynebu'r gelyn.

Dyma un ohonynt yn dweud yn ddistaw wrth y llall, ond yn ddigon uchel i'r hen Daid glywed: "Yli sgwarnog yn croesi'r gors".

Pan ddaeth yr amser, dywedodd un o'm cyfeillion wrthyf yn ddistaw ei fod wedi rhoi hanner potelaid o frandi yn y geudy (ty bach), os medrwn gael mynd yno.

Gofynnodd, yn ddistaw, 'P-pam mae o'n debyg i g-gastall C'narfon, 'ta?'

Agorodd y drws yn ofalus a dechrau chwilio'n ddistaw, ddistaw am yr hyn a geisiai.

Weithiau cymerant yn ddistaw a swil - rhyw binsio cymryd yn union fel deilen grin yn taro'r bach ar ei thaith.

Yr oedd teimlad rhyfedd wedi dod trosom, rhyw fath o wacter, y llenni i lawr ar y ffenestri, Mama a'i llygaid yn goch, a phawb yn mynd o gwmpas eu pethau yn ddistaw.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Stopiodd un cyfaill ac arwyddo i ni aros, a bod yn ddistaw.

Yn ddistaw bach, roedd Dafydd Elis Thomas wedi gobeithio y byddai Syr Wyn Roberts yn aros yn y Swyddfa Gymreig gyhyd â phosib - bellach, gyda Rod Richards yn swydd allweddol yr iaith, mae yna ansicrwydd newydd.

Eisteddai pawb yn ddistaw yn y dosbarth.

dechreuodd huw grio 'n ddistaw bach, ond peidiodd pan ddywedodd gethin fod rhaid iddynt redeg bob cam i swyddfa 'r heddlu.

A dyna'r dyn ieuanc yn ymestyn tros gwr y sêt lle roedd Hugh Evans ac yn gofyn yn lled ddistaw i'r ddynes ieuanc: 'Wyt ti am weiddi heno?' Troes hithau tan wenu, ac ateb: 'Ydwyf, os wyt ti am wneud.' Daeth y pregethwr i mewn, dechreuodd bregethu.

Cyfododd rhu y chwyrnwr yn uwch, ac agorodd Dan y drws, yn ddistaw bach.

Cododd Robat o'i wely'n ddistaw bach, a gwisgo'i slipas, a siwmper dros ei byjamas.

Bachgen bach busneslyd, aie?' Aeth ymlaen yn ddistaw.

Mi ddes i yma, fel y gwyddoch chi bellach, i gadw llygad ar Twm Dafis ac i geisio holi'n ddistaw bach ymhlith y trigolion a oedden nhw wedi sylwi ar wynebau dieithr hyd y fan yma yn ddiweddar.

Agorodd rhagor o ddrysau gerllaw ac ymunodd teuluoedd eraill gyda nhw i gerdded yn rhibidrês ddistaw tua phrysurdeb y coridor mawr.