Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddodrefn

ddodrefn

Mae colli darn cyfarwydd o ddodrefn yn gwneud i bawb deimlo ychydig yn chwithig, hyd yn oed i'r rhai oedd wedi bygwth rhoi bwyell trwyddo ers blynyddoedd.

Wedi cyrraedd Tai'r Peilotiaid piciwch i mewn i weld yr arddangosfa o fywyd gwyllt a'r hen ddodrefn.

Mae'r Antur, hefyd, wedi sefydlu canolfan arddio sy'n cynnig amrywiaeth o blanhigion, llwyni coed, alpau a grug ac amrywiaeth o ddodrefn, thybiau pren a choncrit ac addurniadau ar gyfer yr ardd a'r patio.

Roedd y pâr ifanc, fel y mwyafrif o blant dynion, yn bur dlodion, heb nemawr o ddodrefn na dillad, a chan fod y gaeaf yn nesu, penderfynodd y penteulu fyned i sale Hendre Llan, ran debyg y byddai yno le da i gael pâr o wrthbannau am bris rhesymol, yr hyn oedd arno fwyaf angen o ddim.

Hi oedd modd cludiant popeth o gerrig i lwyth o ddodrefn ar adeg mudo ym mân dyddynnod y mân bentrefi.

Yr oedd ganddi ddodrefn da, o dderw.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Mae hi fel trampolîn.' `Wyt ti'n meddwl y cawn ni afael ar drysor yma?' `Cellwair yr wyt ti wrth gwrs.' `Wel - dwyt ti byth yn gwybod - edrych ar y wardrob draw fan na - pwy a yr beth sydd ynddo.' `Yr unig ffordd i ddarganfod hynny yw mynd i edrych!' Gan waeddu a bloeddio neidiodd y giang dros y gwahanol rwystrau i'r fan lle safai hen wardrob yng nghanol pentwr o ddodrefn diraen fel llong ofod a adawyd ar ôl.

Mewn siop ddodrefn neu gelfi y bu Euros yn gweithio i ddechrau.