Daeth yn un o ddringwyr gorau'r wlad.
Roedd hi'n dawel iawn y prynhawn hwn, y tawch yn cynyddu, tomenydd Elidir fel crwbanod enfawr, er efallai bod yna amryw o ddringwyr yn crafangu ar greigiau'r Glyder Fawr o gwmpas Pont y Gromlech.
Ond nid dwsinau o ddringwyr, ond heidiau wrth y fil fydd yn nadreddu i fyny o Ben y Gwryd dros y bwlch tua El Dorado Leading Leisure yng Nglyn Rhonwy os caiff Cynghorwyr Arfon eu ffordd.
Creigiau duon sydd ym mhobman wrth i'r gadwyn o ddringwyr ddilyn yr arweinydd i'r copa.