Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddrwg

ddrwg

'THERE ISN'T!' 'Ddrwg gen i, ond mae'n edrych yn debyg iawn i mi.'

Mae'r ysbryd cyfeillgar a phositif yno yn gwneud i rywun feddwl nad ydy'r hen fyd 'ma yn le mor ddrwg â hynny wedi'r cwbl.

Mae'n ddrwg gen i' Sut medrai hi fynd yn ei blaen?

Mae'n ddrwg gennyf orfod eich codi o'r gwely, meddai'r Arolygydd yn swta, ond mae gennyf warant i chwilio'r tŷ yma,' a chan chwifio'r papur yn ei law camodd dros y trothwy.

Mae'n ddrwg gen i os dychrynais i chi.

Ac mi fasa'n o ddrwg ar aml un ohonom ni oni bai am y rheiny.

Gafaelodd yn ei law ac meddai, 'Mae'n ddrwg gen i Merêd...mi ddifethis i bopeth on'do?'

Er nad ydw i'n ddoctor rwyn credu ei bod yr un mor rhesymol tybio y gallair dewis anghywir o lyfr wneud dirfawr ddrwg i rywun hefyd.

Ddim yn ddrwg, ddim yn ddrwg o gwbwl, ebe'r drych.

Bu mewn tymer ddrwg am yn agos i saith mlynedd!

`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.

Fe hoffwn i bwysleisio fod y sefyllfa yno yn ddrwg iawn.

A go brin fod Rick wedi lleddfu dim ar ei thymer ddrwg drwy fod hanner awr yn hwyr yn dod i'w nôl hi.

Unig ddrwg hyn, wrth gwrs, yw eu bod nhw'n gwneud i ni ddynion dros ein 48 deimlon 84 mewn cymhariaeth.

Yna, fel petai'n ddrwg ganddi am fod braidd yn gwta: 'Sori, Megan, ond mae gen i bobol ddiarth...'

Pan ddywedodd hi fod yn ddrwg ganddi am farw John, meddai, 'Yn enw Duw, peidiwch â sôn dim am y diawl'.

Y GARTH - CLEIFION: Roedd yn ddrwg gennym glywed for Mr Dyfnallt Morgan, Cilan, Garth Ucha yn yr ysbyty ers dros wythnos bellach.

Fe'n rhybuddid yn aml nad oedd gennym hawl i gyffwrdd llaw â phlentyn, waeth pa mor ddrwg oeddynt.

Mae yn siwr na wnaeth fy argymhelliad ansicr yn oriau mân y bore ddim llawer o ddrwg i'r un o'r ddau felly.

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

"Mae'n ddrwg iawn gen i am geisio dwyn eich eiddo, ond bwci tlawd iawn ydw i heb ddigon o fwyd gennyf i'w roi i'm plant.

Pan mae rhywun ifanc yn cael profiad o ymddwyn yn ddrwg, ac yn dda maent yn dysgu delio efo'r ddau gyflwr.

Ar ben hynny, mae yna sawl thema'n cael triniaeth eironig yn y llyfr ac, heb sbwylo'r peth, mae'r traddodiad o fynychu capel yn ei chael hi'n o ddrwg.

Hen ddyn slei a chynllwyngar oedd o, yn cyrraedd fel cawod o law o'r môr ac roedd llawer yn credu fod ganddo ddawn i ddymuno'n ddrwg drwy ddim ond taro ei lygad ar rywun.

Mae'r rhyfel yn erbyn yr Iseldiroedd yn mynd o ddrwg i waeth..." Roedd o'n ei phlagio hi.

Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dridegau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.

Yn ôl un bardd 'deubeth sydd ddrwg eu diben' mewn cymdeithas wâr, sef 'tref heb parch', sef cymuned o bobl, a 'tyrfa heb ben', sef cynulliad heb atweiniad a allai droi'n anniben ac aflywodraethus.

Gwrthwynebydd arall yw'r Cynghorydd Rhys Sinnett sy'n poeni am gamddefnydd o arian y cyhoedd ac yn anghytuno â barn Lyn Davies bod unrhyw gyhoeddusrwydd i Sir Benfro (boed dda neu ddrwg) i'w groesawu.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Ac ar ôl teithio ychydig, fe darawodd fy mhen glin yn erbyn carreg finiog, a dechreuais waedu'n ddrwg.

Duw a ŵyr pa ddrwg y gallai ef 'i wneud i ti 'tase fe'n mo'yn.' 'Mae e Gary wedi ymaelodi â'r ATC yn yr ysgol hefyd.' 'Pwy feddyliai - yr Army Training Corps yn eich ysgol chi o bob man.

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

Na, na, mae'n ddrwg gen i,' a sŵn celfi yn cael eu lluchio'n erbyn y palis rhwng y ddau dŷ.

Tim rygbi Cymru yn cael eu trechu'n ddrwg gan Lloegr a Ffrainc a chwestiynau yn cael eu gofyn am barhad y gystadleuaeth pum gwlad a dyfodol y timau Celtaidd.

Aeth yn ôl i'r gegin a chlywed y sgrechian wedyn a llais Mary yn glir yn gweiddi mewn dychryn, 'Mae'n ddrwg gen i, ddrwg gen i.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Mae pethau wedi mynd mor ddrwg ar y ffermwyr hyn nes maen nhw'n gorfod defnyddio ffens drydan i gadw'r anifail yn ddigon pell i ffwrdd.

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

Os yw gor- gynnyrch yn y diwydiant glo neu'r diwydiant dur yn ddrwg i'r economi beth am orgynhyrchu a gor-gynnyrch yn y diwydiant amaethyddol?

Ond 'does dim rheswm i fod o'n dal mor ddrwg o hyd; disgwyl i bethau ddwad yn well mae dyn." "Wir, ddaw o ddim," meddai Ann Ifans, gyda'r ysbryd trychinebol hwnnw sy'n nodweddu pobl lawen.

Y mae pechod yn ddrwg dyfnach na dim ond rhyw wyriad yn yr ewyllys ddynol.

Roedd hwnnw wedi mynd o ddrwg i waeth.

Wel, cyn i mi gychwyn o'r Penmorfa hwnnw mi es i ati hi, i drio deud wrthi hi bod ddrwg gin i glywad am 'i chollad hi, a ...

Mae'n ddrwg gen i, syr, ond ...' Yr oedd y geiriau'n gwrtais ond yn gadarn.

Nid oedd unrhyw ddrwg deimlad rhyngom neu fe fyddwn wedi cael y veto wrth geisio symud i Rif Chwech gan ei fod yntau yn byw yno hefyd.

heb sôn am ddehongliad digri dros ben o ddrwg a da.

Ae yntau yn ddyn bach mor ddistaw." "~ae'n ddrwg gen i ddweud wrthych chi, Mrs Williams," meddai'r arolygydd, "ond nid dyma'r tro cyntaf i Twm Dafis fod mewn helynt gyda'r heddlu." "Be!

'Ond mae'r S-s-serosiaid yn ddrwg,' baglodd Meic.

Pwysleisia yn yr adroddiad hwn gyflwr y galon - mwy ei thwyll na dim, ac yn ddrwg ddiobaith fel y clywn oddi wrth Edward Matthews a Roger Edwards dro ar ôl tro.' Ceir yn y fan hon beth o gomedi orau Hiraethog, gyda'r hen ŵr yn gwrthdaro â Siôn y Gof.

Clywed fod fitamins yn ddrwg ichi.

Ac nid yw hyn o raid yn ddrwg.

Aeth pethau'n go ddrwg rhyngddo ef a'r meistriaid wedi k.ynny.

Daeth dwyieithrwydd i'r Wyddgrug gan ddwyn yn ei sgil ei ddrwg yn ogystal â'i dda.

'Roedd yn ddrwg gen i, Mags!

'Dydw i erioed wedi gallu chwerthin am ben campau unrhyw glown a 'does yna'r un slepjan (mae'n ddrwg gen i, Syr Wynff a Plwmsan) na phei gwstard wedi gallu gwneud imi wenu hyd yn oed.

a meddyliasom pa dda a pha ddrwg ddoi o gymdeithas Gymreig yn Rhydychen.

fe fydd dawns yno heno, a dydy'r bwyd ddim yn ddrwg chwaith.

'O, mae'n wir ddrwg gen i, Mr Gorbachev,' atebodd hwnnw, 'ond, ŷch chi'n gweld, doedd neb fan'ma wedi'ch nabod chi.

Os oes yna rywbeth wedii guddio, fe ddaw i olwg y byd, ac fe wnaiff fwy o les nag o ddrwg.

Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus.

Meddwl oeddwn i fod pobl 'run fath â ti, rwyt ti'n gweld, bob amser i'w cael mewn tai bach - cachgi yn y cachdy, fel petai.' 'Mae'n ddrwg 'da fi nad oes gen ti ddim byd gwell i'w wneud, Gary, na'm dilyn i o gwmpas y lle, ond mae gen i.' Gwyddai Dilwyn ei bod yn rhaid iddo gadw'i dymer, beth bynnag a ddywedai'r cythraul hwn.

Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dri-degau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.

`Rwy'n siwr ei fod e wedi cael ei anafu'n ddrwg.

Mae'n ddrwg gen i dy siomi di," meddwn wrth Meinir.

Ffrydiodd y cyfan 'nôl, yna clywodd lais Janet eto: 'Mae'n ddrwg gennyf, Miss Beti, ond fe redodd Robin bach o'm gofal yn y Neuadd Fawr.

Rydych chi'n gweithio mor galed i fagu'ch plant." "Ond rydw i'n ddrwg," meddai Pamela wedyn, "ac all neb na dim fy ngwneud i'n wahanol.

"Mae'n ddrwg gen i, Madamoiselle," meddai, heb edrych arni, ac yna yn ddistawach, "Henri.

'Mae'n ddrwg gen i,' ebe Hector, "Rown i'n meddwl.'

Wedi i Hywel symud i ddysgu i Ysgol y Mynach aeth pethau o ddrwg i waeth wrth iddo ddechrau gweld Stacey Jones - 'roedd Stacey yn paratoi i wneud ei harholiadau TGAU ar y pryd.

Blwyddyn newydd ddrwg A llond tū o fwg.

Yr oedd yn rhyfeddod i Cradoc fod neb mor ddrwg a ffôl â gwrthod y fath gynnig.

Pe bawn i'n mynd fyddai dim rhaid i mi feddwl am fwyd, a doedd beth bynnag oedd yn gymorth yn y frwydr fythol yn erbyn ennill pwysau ddim yn ddrwg i gyd.

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng Teg a Cassie a bu bron i Cassie golli'r babi pan wnaeth Teg ei tharo.

Am wythnosau bu Rhian yn ddrwg ei hwyl o ganlyniad i'r pwysau arni.

Roedden nhw'n sgrechian ac roedd rhai ohonyn nhw wedi cael eu anafu'n ddrwg.

Aeth pethau o ddrwg i waeth yn ystod yr wythnos honno.

'A glychu dy big dy hun yr un pryd?' 'Twt, 'neith cropar o rwbath cynnas ddrwg yn y byd i ddyn nac anifal, yn enwedig pan fydd y gwynt yn union o Borth Neigwl, fel y mae o heddiw 'ma.' Wedi sgubo sylw yr hwsmon o'r neilltu fel hyn aeth Pyrs ymlaen â'r stori.

'Mae'n ddrwg gen i 'mod i wedi dychryn a rhedeg i ffwrdd y noson imi'ch gweld chi ar y clogwyn.

"Mae'n ddrwg gen i'ch styrbio chi, ond - " "Sorry, I don't speak Welsh," meddai'r ddynes.

Chware teg i'r hen Shylock, 'doedd o ddim mor ddrwg a hynny.

Yr oedd hyn yn brofiad newydd iddo, ond ychydig yn unig o'r rhyfel a welodd Phil, oblegid ar un o'i fordeithiau cyntaf cafodd ddamwain erchyll pan ddaliwyd ei droed chwith mewn peirianwaith ar fwrdd y llong a'i malurio'n ddrwg.

''Neno'r gogoniant, i be ma' isio i chi drampio'r wlad, gefn berfadd nos, yn malu ffenestri pobol onast?' ''Ddrwg gin i, Miss Willias.

Ddrwg gen i bod ni'n hwyr, yr awyren yn hwyr a nawr i ni wedi cael puncture.

Mae'n ddrwg gen i na fedra i gynnig y moethus-rwydd sy'n siwr o fod yn beth hollol naturiol i chi yn eich gwaith bob dydd.' Sgubodd bentwr o bapurau oddi ar gadair anghyfforddus yr olwg, gan ddal ei gwynt rhag iddo ddarganfod nad oedd y coesau'n wastad hyd yn oed wedyn.

Yr oedd Mr Jones y Person, hefyd yr un mor ddiragrith yn ei gydymdeimlad, ac wrth weled yr Yswain a'r Person mor hynaws tuag at Harri, dilynodd eraill rhai na theimlent yn dda nac yn ddrwg ato eu hesiampl.

Fel rhif cofrestredig ar gerbyd y mae, meddent, yn rhagarwydd o ddrwg.

Bellach y mae yna ffordd y gallwn ddechrau cydweithio i liniaru rhywfaint ar ddrwg effeithiau yr holl newidiadau yma.

Mae'n wir ddrwg gen i.' Gafaelodd yn dyner yn ei garddwrn i'w hatal rhag rhwbio.' Rydw i'n fwy pengaled na chi, mae'n amlwg.

Parhau wnaeth trafferthion carwriaethol Hywel wrth i'w gyn-gariad Rachel Price ddod i weithio i Gwmderi ond aeth pethau o ddrwg i waeth pan symudodd Nia Matthews i Ysgol y Mynach.

Oriau yn ddiweddarach cafodd Mrs Parker, nad oedd wedi cael ei hanafu'n ddrwg, afael ar ei merch mewn ysbyty yn Zeebrugge.

Y peth ydw i'n geisio'i ddweud ydi hyn: petawn i wedi mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n eitha posib y buaswn innau heddiw ymhlith y nifer fawr sy'n wfftio at y syniad o ysbryd, da neu ddrwg, ac at unrhyw fath o fodau sy'n gallu camu nôl ac ymlaen o'r byd yma i'r byd tu hwnt i'r llen.

Dim ond wedi picio i'r drws nesaf i gynnau'r tân er mwyn i'r gegin fod wedi cynhesu erbyn i Anti Jini Norman godi roedd hi; mae cryd-cymalau Anti Jini yn ddrwg yn y bore.

Gwleidyddol - cwbl ddrwg.

Teimlai yn wirioneddol ddrwg drosto.

Mae'n ddrwg gen i,' ymddiheurodd y gyflym cyn i Alun gael dweud gair.

Nid rhyfedd felly fod ambell i of yn ddrwg ei hwyl ac yn atgofio'r ffermwyr y byddai'n well pe baent wedi bod yn y Capel y diwrnod cynt (y Sul) na phechu drwy godi traed eu ceffylau i'w harchwilio.

Sylweddolodd ei fod gannoedd o filltiroedd o Ogledd Cymru ac yn nwylo pobl ddrwg.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

'Chi oedd y ferch oedd mor haerllug â dweud wrtha i neithiwr fod y mawr yn ddrwg a'r bychan yn ddel!' Deifiodd y swyddfa â'i lygaid wrth edrych o gwmpas Mae'r bychan yn ddel, ydi o, Miss Richards?

Yn ystod ei hwythnos o arhosiad yno, 'roedd pethau'n o ddrwg rhwng y tad a'r mab, er i Cadi dyngu yn y llys na chlywsai hi erioed air cas rhyngddynt.