Iaith y canu oedd Profenseg neu la langue d'oc, dit aujourd'hui l'occitan, ond yr oedd ei diriogaeth wreiddiol yn ehangach na Phrofens, oblegid cynhwysai hefyd Languedoc, Aquitaine (gan gyfrif Limousin, Perigord, etc) ac Auvergne, a defnyddiwyd yr iaith fel cyfrwng canu gan y beirdd i'r deau o'r Pyrenees, gan y beirdd Catalanaidd ar y naill law a chan feirdd gogledd yr Eidal ar y llaw arall.
Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.