Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deddfwriaeth

deddfwriaeth

cofnodion pob trafodaeth, penderfyniad a deddfwriaeth eilradd a chynradd yn y Cynulliad i fod yn ddwyieithog, gan gynnwys yr Hansard.

i) ymgyfarwyddo â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a Chôdau Ymarfer Iechyd a Diogelwch fel y maent yn berthnasol i'w rôl;

Mae'r rhai hynaf ohonom yn cofio adeg pryd y byddai galwadau aml iawn ganol nos ar y meddygon ond tybed a oes angen deddfwriaeth ynglŷn â hynny o alwadau ganol nos sy'n digwydd erbyn hyn?

Y gwir yw fod deddfwriaeth Prydain Fawr yn talu'n dda i ddwsin a rhagor o aelodau'r Quango Iaith ac mae eu gwaith hwy yw ein tawelu ni.

Mae Cyfreithiwr y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau eraill ar yr arfordir, ac mae'r Aelod Seneddol yn gefnogol i gael deddfwriaeth.

Galwn ar i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu o ddifrif i greu deddfwriaeth newydd fydd yn gosod seiliau cadarn i drawsnewid sefyllfa'r Gymraeg a hynny o fewn ei dymor cyntaf.

Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dychmygwch beth fyddai canlyniad dibynnu ar ewyllys da yn hytrach na deddfwriaeth i amddiffyn yr amgylchedd.

Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.

O gymharu â deddfwriaeth yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ar sail rhyw neu anabledd, mae trefn gwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi ei llwytho o blaid y corff cyhoeddus ac yn erbyn y defnyddwyr.

Mae cynnwys y sector preifat yn rhan hanfodol o greu deddfwriaeth newydd.

Rydym yn galw ar y llywodraeth i drin y Gymraeg yn gydradd â phynciau eraill pwysig a chyflwyno deddfwriaeth newydd sydd yn fwy addas i'r oes hon.

"...deddfwriaeth fydd yn rhoi hawliau newydd i rieni plant ag anghenion arbennig, gan gynnwys trefn tribiwnlysoedd a gwelliannau i'r drefn asesu a datgan."

Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd.

Pwysleisiodd mai deddfwriaeth oedd achos y newidiadau hyn.

Mae San Steffan yn cyflwyno deddfwriaeth gyson ar faterion pwysig fel cyfathrebu a darlledu i ymateb i her datblygiad.

Bellach, mae cwmnïau preifat yn rheoli sawl agwedd ar ein bywydau - ffônau symudol, cyfrifiaduron, siopau ac yn y blaen, ac mae'n amlwg i bawb fod angen deddfwriaeth dros y cyrff hyn.

Gan nad yw'r Cynulliad â'r hawl i basio deddfwriaeth gynradd, pwyswn arnoch i fynnu fod senedd Westminster yn neilltuo amser penodol i drafod Deddf Addysg gyfochrog i Gymru fydd yn gweithredu barn y Cynulliad Cymreig.

Er hyn i gyd, bu cyfnewidiad annisgwyl mewn deddfwriaeth yn Oes Elisabeth.