Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dedwydd

dedwydd

Amcan y Blaid Genedlaethol yw - nid cadw'r Gymraeg fel ffetish yng Nghymru - ond ci gwneud hi'n bosib i bob Cymro fyw bywyd llawn, gwaraidd, dedwydd, cain.

Erbyn hyn, gwahanol yw'r ddealltwriaeth ynghylch nodweddion y teulu dedwydd.

Pan ganodd ef ei gynghor dedwydd - "Siaradwch y ddwy% - oni ragflaenodd y symudiad sydd ar droed i wneud plant Cymru yn Saeson heb iddynt beidio bod yn Gymry?

Llwyddodd haid o ddewiniaid i greu'r argraff i ddyn da o deulu dedwydd gael ei ladd.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Davies, Bryn Dedwydd; RW Roberts, Tŷ'r Ysgol, a minnau.