Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dehongliad

dehongliad

Mae'n mynnu taw ganddo ef y ceir y dehongliad cywir, yn wahanol i'r un a gafodd ei lygru gan wledydd Arabaidd eraill.

Cydnebydd Tegla i'r gyfrol gael "canmol mawr arni gan wyr cyfarwydd a chondemnio mawr arni gan wyr cyfarwydd, yn ôl eu dehongliad gwahanol ohoni%.

Yn Y Ffin a Saer Doliau daw rhywun, merch fel mae'n digwydd (er bod Gwenlyn ei hunan yn gwrthod y dehongliad fod arwyddocad i'r rhyw) i dorri ar ddedwyddwch ynysig y cymeriadau.

Y mae dehongliad John a Maureen o dri cham mawr bywyd yn ddehongliadau meddylgar.

Yn stori garu hudol a doniol Donizetti, L'Elisir D'Amore (cynhyrchiad gan RM Associates i BBC Cymru) crewyd cyffro o wahanol fath gan y par gyda'u dehongliad iasol o'r darn hyfryd hwn a ddangoswyd ar BBC Two.

Y dehongliad arall oedd bod Preswylydd y Berth yn fy ngalw i wasanaeth.

Nid nad yw'r dehongliad hwnnw'n bosibl ond mae'n rhaid gochel rhag ei dderbyn fel yr unig un: byddai hynny'n groes i natur fytholegol y sgriptiau.

Ar ôl dehongliad llawn bywyd o Land of Hope and Glory, daeth y digwyddiad yng Nghymru i ben gyda'r emyn Calon Lân a gyfansoddwyd yn Abertawe wedii ddilyn gan Hen Wlad Fy Nhadau ac arddangosfa tân gwyllt drawiadol.

Y Cyflawniad Ysgrythurol: Byddai'r dehongliad o farw Crist fel aberth dros bechod yn annealladwy onibai am aferion a disgwyliadau Israel yn yr Hen Destament.

Yn naturiol y mae dehongliad y Testament Newydd ar waith Crist yn adleisio'r elfennau offeiriadol a phroffwydol yn niwinyddiaeth yr Hen Destament.

Wrth edrych yn ôl roedd y wasg o bosib' yn barotach na'r disgwyl i gytuno â'r dehongliad hwnnw.

Beth pe bai dehongliad Lewis Olifer yn wahanol i un Enoc a Gwyn?

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Mae'r dehongliad hwn yn sicr yn cyd-fynd â chymeriad yr afon (yn enwedig felly ei rhan isaf) pan fydd hi wedi bod yn bwrw'n drwm.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Y dehongliad offeiriadol.

Y dehongliad proffwydol.

Ceisio dehongliad newydd o'r llenor yr oedd mewn cymdeithas a gollasai'r gwerthoedd ysbrydol a oedd mewn grym yn Oesoedd Cred.

Dehongliad John Griffiths oedd eu bod nhw wedi symud i'r De i geisio torri'n rhydd am eu bod nhw'n colli eu grym traddodiadol yn Washington ac Efrog Newydd.

Y mae'r dehongliad offeiriadol yn dangos Duw yn dod i gyfarfod â dyn, ac nid yn unig yn disgwyl am i ddyn ei ddiwygio ei hun.

Canmolwyd y dehongliad deallus o hanes Paul Robeson yn y rhaglen Speak of Me as I Am.

O fewn y berthynas yma mae nifer o ffactorau eraill, megis dylanwadau gwleidyddol ac economaidd hefyd yn chwarae rhan bwysig ac yn cymhlethu'r dehongliad ymhellach.

Fe'i nodweddid gan basiantri a mawrfrydirwydd oesol, a nodweddion tebyg a gaed, yn ôl dehongliad y beirdd, yn llysoedd uchelwyr Cymru.

Greddf yn eu cyfarwyddo oedd y dehongliad.

Nid yw'r gosodiad yn gwbl eglur, ond y dehongliad a roddir arno'n gyffredin yw nad brenin oedd Arthur ond cadfridog o athrylith yng ngwasanaeth y brenhinoedd.

Prin y mae angen gwell dehongliad o'r modd yr oedd y safbwynt cenedlaethol yn tyfu yng Nghymru rhwng y ddau ryfel na'r brawddegau llwythog hyn.

Mae tuedd i'r label clasuraeth fod yn gamarweiniol gan mor gyfyng yw'n dehongliad ni o'r term yn aml.

Dehongliad newydd a geir o natur y serch rhamantus.

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.

Ond ceir rhai agweddau yn y dehongliad offeiriadol sy'n pwysleisio ambell wirionedd pwysig arall:

Mae'n wir, fel y dywedodd Dafydd Glyn Jones eto, fod holl 'elfennau confensiynol rhamant yng ngolygfa'r dianc i briodi, ond nid yw hynny, wrth gwrs, yn gyfystyr a dweud mai dehongliad arferol y cyfnod rhamantaidd o'r nwyd ei hun sydd yma.

Er mai seithug yw'r ymdrech yn y pen draw, mae ei chyfiawnder (yn ol dehongliad Saunders Lewis) yn nobl.

Ond yr oedd yna duedd yn y dehongliad hwn i ganolbwyntio ar droseddau defodol y gallai dyn eu cyflawni'n ddifeddwl neu'n anfwriadol, gan anwybyddu'r troseddau moesol dyfnach a ddibynnai fwy ar ewyllys dyn.

Does dim amheuaeth felly fod dehongliad Gadaffi o'r Koran wedi gwella statws merched yn Libya.

Gelwir hyn yn "asesiad"." BYDD Y DEHONGLIAD HWN O ASESIAD, FEL PROSES LLE MAE'R CLIENT YN

Owen oedd dehongliad Myfanwy Talog o'r Ferch.

Nid aberthau yn yr ystyr offeiriadol yw'r ateb yn ôl y dehongliad hwn, ond newid yr ewyllys.

Beth am ei dehongli fel alegori rydd, hynny yw fel darlun o gyflwr meddwl sydd yn agored i sawl dehongliad am fod y llun yn taro tant yn ein meddyliau i gyd a bod ein meddyliau i gyd yn wahanol er bod yr ofnau a'r pryderon mawr yr un?

Mae llawer o hyn yn ddigon credadwy fel dehongliad, dybiwn i, er na ddisgwylid i'r darllenydd briodoli symbolaeth o'r fath i feddwl - ymwybodol, o leiaf - awdur neu awduron Culhwch ac Olwen.

(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.

Y ffigur pwysicaf y mae'n ofynnol inni dderbyn dehongliad Layard ohono, er mwyn gwerthfawrogi ei holl ddamcaniaeth am y chwedl, ydyw Ysbaddaden Bencawr.

Fel mae'n digwydd yr wyf yn cytuno â hwy yn eu gofid am 'safon' iaith, ond ofnaf fy mod yn gweld eu dehongliad o'r hyn sy'n digwydd yn annigonol.

Pe cawn roi dehongliad diwinyddol o hanes y Blaid dywedwn fod aml ddigwyddiad yn ei hanes yn rhagluniaethol.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.

a ydyw athrawon yn gyson yn eu cyflwyniad, ac yn eu dehongliad o'r cymorth a ganiateir i ddisgyblion ?

Y mae hi'n deg casglu nad oedd y drefn eisteddfodol, na'r gynulleidfa o eisteddfodwyr, yn barod i dderbyn dehongliad mor ysgubol negyddol ar berthnasedd 'yr Hendduw' i'w greadigaeth.

Wrth ymyl hyn mae pob dehongliad o barhad bywyd a 'byd arall' ym amrwd anthropomorffig, fel y gall y neb a fu mewn seans ysbrydol dystio.

Yr ateb i iacha/ u'r halogiad hwn yn ôl y dehongliad offeiriadol yw'r gyfundrefn aberthol.

Mae'r dehongliad o hanes yn gyfoes, o raid, am mai'n rhagdybiau ni sydd y tu ol iddo, ond nid yw hynny'n gwneud ddoe a heddiw'n un.

Ond, wedi dweud hynny, 'does yna'r un dehongliad arall sy'n ystyrlon, chwaith, ar lawer o'r rhain.