Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deng

deng

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio er pan enillodd Alun Jones Wobr Goffa Daniel Owen gyda'i nofel Ac Yna Clywodd Swn y Mor, ac roedd cyhoeddi'r nofel honno flwyddyn yn ddiweddarach yn garreg filltir go bendant yn hanes y nofel Gymraeg.

Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.

Yn y deng mlynedd diwethaf datblygodd archaeoleg i'r graddau fel y gellir yn awr ei chymharu ag astudiaethau cyfatebol ar y tir.

YN ystod y deng mlynedd diwethaf rhoddwyd mwy o sylw nag erioed i adnoddau'r môr.

Jamie Baulch sydd wedi ennill brwydr y Cymry i gynrychioli Prydain yng Nghwpan Athletau Ewrop ymhen deng niwrnod.

'Deng munud i wyth heno wrth y moniwment cofia,' oedd geiriau olaf Cen.

Buom yn disgwyl am tua deng munud ond tra'n disgwyl daeth nifer o yrwyr tacsi atom i ofyn os oedd angen un arnom.

"Fe wynebwn ni hynny pan ddaw'r amser," meddai yntau, "mae na lawer tro ar fyd ac mae deng niwrnod ar ôl o'n gwyliau ni.

Parhaodd Clwb Bryncir am tua deng mlynedd fodd bynnag, ond gan i rai aelodau symud o'r ardal ac i rai eraill briodi, lleihaodd eu nifer a daeth y Clwb i ben.

Yn y deng mlynedd ddiwethaf mae hurling ar i fyny.

Deng miliwn yw ei phoblogaeth.

Yn ystod deng mlynedd olaf yr hen ganrif a deng mlynedd cyntaf ein canrif ni fe werthwyd miliwn o lyfrau emynau Cymraeg, - miliwn o lyfrau emynau ymhlith poblogaeth o ddwy filiwn, a dim ond hanner y rheini'n medru Cymraeg.

Dim ond un Alun Jones sydd gennym, ond er mor annhebyg iddo yw nofelwyr eraill diwedd y saithdegau a'r wythdegau, mae'n ymddangos i mi inni gael adfywiad ym maes y nofel yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Gan fod deng mlynedd tan hynny 'doedd y fath broffwydo ddim yn mennu rhyw lawer arnaf.

Max Boyce Pan ymddangosodd Max Boyce ar ein sgriniau am y tro cyntaf ers deng mlynedd ym 1998 cafodd BBC Cymru y ffigurau gwylio uchaf erioed.

Wedi deng mlynedd o addysg brifysgol drwy'r Saesneg, roedd Euros yn gyfoethocach ei Saesneg na'i Gymraeg, a dengys ei gyfieithiadau o'i gerddi ei hunan (a wnaeth ef yn ddiweddarach) ei fod yn gryn feistr ar Saesneg.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Mae'r map yn darlunio deng mil o flynyddoedd.

Gruffudd Parry, Ar Ol Deng Mlynedd ar Hugain

Mae amaethyddiaeth, er nad yw'n cyflogi gymaint ag yn y gorffennol o bell ffordd, yn dal i chwarae rhan bwysig yn yr economi, ond oherwydd y newidiadau mewn dulliau ffermio ac yn y Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae'n debyg y gwelir gostyngiad pellach sylweddol yn y nifer a gyflogir yn ystod y deng mlynedd nesaf.

Cofiaf adegau o orfod rhedeg, gan gario'n pac a'n dryll, am bum milltir a hynny mewn deugain munud, ac yn ddiweddarach gwelais (os cofiaf yn iawn) orfod rhedeg deng milltir mewn awr a deugain munud.

Ar sail datblygiadau arwyddocaol ac addysgu blaengar ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod y deng mlynedd diwethaf awgrymir y canlynol:

Ganed Richard Davies rywbryd yn ystod deng mlynedd cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg - ni allwn fod yn fwy pendant na hynny, gwaetha'r modd.

Sut y priododd y fenyw yma â'r cowmon amharod ymhen deng mis, a thrwy hynny dynnu atgasedd yr holl ardal am eu pen; nes bod rhaid iddyn nhw fyw mewn unigrwydd anghymdeithasol.

Dyna felly a gaed yn y ddrama - dilyn hynt a helynt dwy chwaer oedd wedi troi eu cefnau ar ei gilydd ers deng mlynedd ac yn dychwelyd i ymweld â'u mam oedd yn dioddef o afiechyd.

Ni chymrodd yntau, mwy na'i gymydog, unrhyw sylw ohoni, ond ymhen deng munud a John heb ddychwelyd efo'r gwningen, aeth allan a chael ei fab yn gorwedd ar lawr.

Ychwanegodd Ffred Ffransis, fodd bynnag, fod gan y Gymdeithas ddau bryder difrifol:,br> 'Mae'r cynnig i sefydlu Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn sylweddoliad ymgyrch deng mlynedd gan y Gymdeithas.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Yn eu plith roedd hyd yn oed lond blwch o sbringiau o wahanol faint a chyda hwy llwyddodd y gof i adnewyddu hen ynnau nad oedd wedi cael eu tanio ers deng mlynedd neu ragor.

Penderfynais ddal y trên deng munud i naw adref, ar fore Sul.

I ni fel tîm a grūp o ffrindi yn Nantgarw mae'r wobr yma'n coroni deng mlwydiant o fodolaeth.

Deng munud i naw.

Yn ystod y cyfnod yma o tua deng wythnos pan gollent eu plu a thyfu rhai newydd, maent yn ddistaw a llechwraidd gan eu bod mewn perygl oddi wrth pob math o elynion.

Ond yr oedd John wedi gwrthod temtasiynaua deng mlynedd a deugain i beidio â bod yn ddynol.

Mae'r gwarchae economaidd sydd wedi parhau am fwy na deng mlynedd wedi amddifadu Kampuchea o unrhyw ddatblygiad diwydiannol ac economaidd.

Mae deng myrddiwn o rinweddau Dwyfol yn ei enw pur; Yn ei wedd mae rhagor tegwch Nag a welodd môr a thir; Mo'i gyffelyb, Erioed ni welodd nef y nef.

Mae deng mlynedd bellach ers dymchwel Wal Berlin.

Soniais yn gwta am y nofelau yna am na theimlaf mai ynddynt hwy - er eu haml rinweddau - y ceir cynnyrch nofelydd mwyaf gwreiddiol a chyffrous y deng mlynedd diwethaf.

Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.

Yn ail, am iddo adeiladu ar y ddysg honno trwy ddarllen yn ddeallus y llwyth llyfrau ar fudiadau a sectau a phersonau canol yr ail ganrif ar bymtheg a gynhyrchwyd gan haneswyr Lloegr yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, corff gwych o waith.

Perfformia bedair gwaith bob haf ym Mhroms y BBC yn y Royal Albert Hall yn Llundain ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf y mae wedi perfformio yn y Musikverein yn Fienna, y Gewandhaus yn Leipzig, y Concertgebouw yn Amsterdam, y Lincoln Center yn Efrog Newydd a Neuadd Suntory yn Tokyo.

Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.

Yn ystod y flwyddyn Sabothol a gymerodd Dyfnallt Morgan tua deng mlynedd yn ol, fe'm rhoddwyd i (a fyddai wedi dwlu ar gael bod yn ddisgybl i RT) yn athro ar ei weddw - arni hi a'r lodesi eraill a berthynai i ddosbarth allanol Dyfnallt ym Mangor, hyhi a'i chydlodesi a'r diweddar Mr RS Rogers (o annwyl goffadwriaeth).

Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen.