Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dethol

dethol

Drwy amrywio'r pellter rhwng y drychau yn y laser gellir dethol un donfedd arbennig.

Hawdd fyddai ysgrifennu cyfrol ar y testun hwn, ond rhaid ymatal a dethol.

Cafodd gyfle i ddod i ganol y llwyfan ddydd Mawrth diwethaf pan gymerodd le Mr Hurd o flaen y Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor.

Newid Ymddangosiad y Testun Gosodwch y cyrchwr o flaen Wali Tomos a llusgwch ar draws y geiriau fel eu bod yn cael eu dethol.

Wrth i ni gyrraedd ar ddydd Iau, roedden ni'n ymuno â chwmni dethol.

Yn y tudalennau a ganlyn, rhoddir manylion dethol am ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob pwnc er mwyn amlygu pwyntiau penodol yn y canllaw.

Nid meithrin dosbarth dethol o ddysgedigion a fynnai ef, ond cadw gwerin Cymru'n grefyddol a'i gwneuthur yn ddarllengar a goleuedig.

Didoli a Dethol

'Mae un coleg wedi'i droi'n ganolfan weinyddol i'r Gwarchodwyr a'r llall yn ganolfan addysg i rai dethol a fydd yn do arall o Warchodwyr.' 'Ond beth am y colegau eraill?'

Cyhoeddwyd hefyd y bydd 32 o chwaraewyr yn cael eu dethol yng nghystadlaethau senglau'r dynion a'r merched yn hytrach nag 16.

Gwnaed y cyflwyniad gan bennaeth yr ysgol Mr V Lloyd Hughes a chafwyd geiriau dethol ganddo a chan rai o staff yr ysgol.

Byddan nhw'n ymuno â chriw dethol iawn - dim ond wyth o'u blaenau nhw sy' wedi cyflawni hynny, gan gynnwys yr asgellwr Ieuan Evans.

Mewn maes mor fawr anodd yw dethol y prif ddatganiadau a dehongliadau, a mwy anodd wedyn yw dosbarthu yn daclus.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Mae'r hegemoni sy'n gweithio drwy'r gymdeithas yn gweithredu tuag at y nod o integreiddio'r holl gymdeithas i mewn i'r drefn ddominyddol - er enghraifft, mae'r system addysg yn gyfrwng tra effeithiol o gyflwyno'r diwylliant dominyddol, a gwneir hyn trwy ddewis a dethol yr wybodaeth sy'n 'berthnasol', 'gwerthfawr', etc., (er nad yw hon yn broses fwriadus ac ymwybodol, fel y nododd Gramsci) - ond mae rhannau o'r gymdeithas nad ydynt yn cael eu hintegreiddio'n llwyr.

Gall camerâu teledu wneud llawer o'r gwaith disgrifiadol erbyn hyn ond mae lluniau mud, heb eu dethol a'u pecynnu gan ohebydd, yn rhyfeddol o ddi-ystyr.

Nid yw'r hormonau BST ar gael yn gyffredinol eto, ond caniatawyd defnydd o'r hormon mewn buchesi dethol i brofi ei effeithiolrwydd.

Rhaid talu teyrnged i'r Cyngor Darlledu am y ffordd yr ymatebodd i sialens yr ymchwiliad i ddarlledu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Roedd y distawrwydd yn Dethol bellach - chlywais i erioed y fath ddistawrwydd.

Y dasg gyntaf, felly, oedd mynd ati i ddisgrifio anghenion y dysgwr ei hun, cyn dethol yr elfennau ieithyddol y byddai eu hangen i'w diwallu.

Bu cryn drafod ar y mater hwn yn ystod cyfnod y Mesur yn y Pwyllgor Dethol yn San Steffan, a mynegwyd cryn anniddigrwydd gyda'r canllawiau gwirfoddol hyn.

Ond mae'r ddau'n aelodau o glwb dethol yr hanner cant - clwb fydd â deg Cymro'n aelodau ohono erbyn nos Sul.

Nid ar gyfer y cyffredin diddeall megis myfi yr ysgrifennai SL, ond ar gyfer cylch dethol a deallusol bychan iawn.

Chi'n gweld 'roedd 'y nhad yn fwy doniol adra, nid yn unig am y ffaith ma' ni fel teulu oedd yn clywed y jôcs gynta' (a chlywed pob un, nid y rhai dethol), ond 'roedd nhad yn ffraeth ei dafod beth bynnag fo'r sefyllfa, does dim pryd bwyd wedi mynd heibio, na fydda nhad wedi dweud, neu wneud rhywbeth doniol.

Tri chant o ddynion dethol oedd gan hwnnw yn erbyn lluoedd Midian ac Amalec, a oedd mor niferus â haid o locustiaid.

Doedd o ddim yn aelod o'r criw bach dethol, a thywys Dei yno oedd ei unig waith y noson honno.

O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.

Gan y cynhyrchydd y mae'r gair olaf ynglŷn â chynnwys a pholisi, ond y golygydd sy'n didoli a dethol, yn trefnu rhediad y rhaglen ac yn dewis i ble i anfon y camerau.

Gwelodd gerddi'r bardd Almaenaidd Heine, a swynwyd ef gan eu cynildeb dethol a'u hysbryd telynegol.

Dechreuodd y sialens yn ddigon rhwydd, ond yn rownd yr un ar bymtheg ola, ro'n ni wedi'n dethol i deithio i'r Rhymni i wynebu'r tîm lleol.

Addasu a Symud Gwrthrychau Defnyddiwch y saeth dewis a chliciwch ar y llinell yr ydych newydd ei chynhyrchu fel bo'r llinell yn cael ei dethol.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Gan gerdded drwy'r gwlybaniaeth i fyny'r rhiw mewn esgidiau rasio cyn deneued â phapur, meddyliais yn galed am y ceffyl roeddwn wedi dechrau'r ras ar ei gefn, a cheisio didol a dethol yr hyn yr o'n i am ei ddweud wrth ei hyfforddwr.

Ar ôl i'r darnau priodol gael eu sychu yn yr haul, bydd gwragedd dethol o'r llwyth yn eu gwisgo o amgylch eu gyddfau - ac yn cael blaenoriaeth wrth fynd ar ôl dwr.

Nicholas Edwards yn Ysgrifennydd Cymru a'r Llywodraeth newydd yn cyflwyno Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig.

Os edrychir yn haniaethol ar 'bethau byw', gwelir bod eu cymeriadaeth yn dibynnu ar faint o ryddid sydd gan unrhyw organeb i ddewis a dethol rhwng posibiliadau gwahanol.