Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dibwys

dibwys

A dibwys a dibwrpas hollol ydoedd gennyf finnau.

Pwnc cwbl eilradd a dibwys oedd y Gymraeg yng ngolwg y mwyafrif mawr yn yr ysgol.

Mae'n fud yn yr ystyr ffisegol, ond mae hefyd yn gwbl ddiffrwyth a dibwys.

Daeth yn rhan nid dibwys o ddychymyg Cymru - yn rhan bwysig o ddychymyg rhai o'i haneswyr (haneswyr o fath gwahanol iawn i RT Jenkins, ond haneswyr serch hynny), ac yn rhan o weledigaeth hanes rhai o'i beirdd yn ogystal.

Dibwys yw'r mwyafrif ohonynt ac yn ffrwyth teipio diofal.

Os symudwn ymlaen ddeng mlynedd i ail hanner y pumdegau gwelwn, er nifer o welliannau bach ond nid dibwys, mai'r un oedd y safle cyfansoddiadol.

Duw a ŵyr, roedd digon o betha hanfodol i'w gwneud cyn rhyw fanion dibwys fel trwshio llechan ar ben to!

Nid dibwys mo'r meddwl politicaidd iddynt, ond geilw argyfwng eu cyfnod am ymgyrchu a brwydro, yn bennaf peth.

Rhyw fanion dibwys yw'r pethau yma, ond mae'n rhaid eu dweud achos gyda'i gilydd maen nhw'n golygu rhywbeth.

Dro arall, clywir am fanylyn a all roi arwyddocâd arbennig i hanesyn dibwys.

Condemniai'r rhai amlycaf ymhlith y Phariseaid am eu gorfanylder ynghylch allanolion dibwys a'u hesgeulustod o egwyddorion pwysfawr y datguddiad o ewyllys Duw a roddasid iddynt.