Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dichon

dichon

Dichon nad oedd hynny'n ymddangos yn berthnasol iawn ar y pryd, ond y mae'r disgyblion a fu yn y dosbarth hwnnw'n cofio'r wybodaeth hyd heddiw.

Sylwer ar y ddau osodiad: (a) dylid cymryd penderfyniadau mor agos ag sy'n bosib at y dinesydd - ac mae ystyr y gosodiad hwnnw'n glir; a (b) dylid gwneud hynny yn unol ag egwyddor subsidiarity, ond dichon y geilw'r egwyddor honno am esboniad.

Ond wrth ystyried Elphin, ar y llaw arall, dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd a goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall.

Nid yw'n dweud ai i'r lluoedd arfog yr a, ond dichon hynny.

Dichon y sobrir ef rywfaint o gofio fod ei feistr tir druan yn gyfrifol am atgyweiriadau i'r adeiladau.

Dichon na fydd newid o bwys yn syniadaeth y mudiad na'i ddulliau o weithredu.

Dichon ein bod yn rhy agos i'r rhain i sylweddoli eu dylanwad ar fywyd gwerinol amaethyddol Cymreig cefn gwlad.

Dichon mai felly y dylai hi fod.

Dichon, fodd bynnag, fod Gwilym Meudwy ymhlith yr olaf, onid yn wir yr olaf o brydyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n crwydro o fan i fan, yn null yr hen faledwyr, yn gwerthu cynnyrch ei awen.

dichon y byddai 'r llif wedi ailgydio ynddi oni bai fod cangen braff a thrwchus o helygen yn tyfu hyd at ganol yr afon, hanner medr uwchben y dŵr ^ r, a brigau deiliog yn disgyn oddi arni i 'r afon yn grafanc am long ffred druan.

Dichon nad ystyriodd dwsinau o bregethwyr ei bod hi'n werth printio geiriau a oedd eisoes wedi cyrraedd dustiau eu gwnndawyr mewn ffordd haws o lawer.

Dichon nad oes cefnogaeth sylweddol i'r cynlluniau hyn yn Iwerddon ac y mae'r blaid yn dioddef oherwydd ei hamharodrwydd i gefnu ar drais.

Gobeithiai na fyddai'n rhy drist yn y dawnsio cyn y Plygain, ond doedd dim dichon dweud y dyddiau hyn.

Dichon ei fod yn gwybod mwy o ganeuon a baledi Cymraeg na neb a adwaenem, a daliodd i'w canu yn y tafarnau ac ar hyd yr heolydd hyd y diwedd .

Dichon y daw llawenydd annisgwyl i'n rhan; dichon y bydd tristwch du yn ein goddiweddyd.

Gall wneud pethau drwg, pethau da, a dichon, ceir digon o le iddo wella.

Dichon nad yw awyrgylch y cyfnod presennol yn fanteisiol i ennill rhagor o ieuenctid i fod yn ymgeiswyr am y Weinidogaeth.

Dichon fod y diddordeb hwnnw fel yr ymddengys yn nhrafodaethau'r cylchgronau ar hyd y ganrif yn edrych yn ffansi%ol ac anwyddonol a hyd yn oed yn ffôl i'r sawl a ddisgynnodd o dan gysgod John Morris Jones.

Magodd a chynyddodd yr þydd Wyllt Gyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond dichon mai adar dof oedd eu cyn-dadau.

Dichon fod y ddau ŵr ifanc yn adnabod ei gilydd yno, ond ni allwn brofi'n bendant eu bod wedi cwrdd a chyfeillachu yn ystod yr amser yma.

Dichon hefyd mai ef oedd y 'William, abad Margam,' y dywed Thomas Wilkins iddo weld peth o hen hanes Morgannwg 'yn warrantedig' o dan ei law' o leiaf, nid oes amau ei ddiddordebau llenyddol.

I Dichon fod ar ôl rywrai'n cofio amdano yn fyfyriwr yn ymgeisio am swydd Prifathro'r Coleg ac Idwal yn gefnogwr selog iddo.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Dichon fod digwyddiadau fel hyn bellach yn ymddangos yn annoeth, ac hyd yn oed yn blentynaidd, ond maent yn dangos fod y berthynas rhwng Ferrar a phrif glerigwyr ei esgobaeth wedi mynd yn bur wenwynllyd.

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Dichon mai cais oedd hyn i awgrymu bod ei stoc lyfrau yn fwy amrywiol nag eiddo llyfrwerthwyr eraill Castellamare.

Ar y pryd, dichon y tybiwn mai dyna oedd yn ddoeth.

Bu cyfeiriad at y `li lith' gan yr Athro Parry-Williams yn rhywle, ond, hyd y cofiaf, nid yw'n awgrymu o gwbl y dichon fod lilith ar gael heddiw.

Dichon y byddwch yn cofio'r frawddeg gyfrin ryfeddol.

Serch hynny, dichon i iaith liwgar Hughes godi gwrychyn yr Eglwyswyr yn fwy na'i ddadleuon.

Dichon bod Peter Williams yn gweld cyfle mewn print i apelio mewn œordd a oedd yn arnhosib ar lahr.

Dichon mai barn Duw sydd ar waith yng Nghymru yn y dyddiau hyn.

Dichon mai ym mhlith y rhain y dylid gosod y rhai trymion, y rhai nad yw llyfr otograff iddynt ddim i'w gymryd yn ysgafn.

Dyn cyfrwys oedd Vatilan, fel y dichon ichi amau eisoes, a dyn drwg iawn.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.

Dichon mai'r adran sy'n estyn noddfa a chynefin i'r adar naturiol wyllt sy'n denu'r gwyliwr adar selog i Martin Mere.

yw, y dichon y Ddei~l Haul arwyddoccâu calon y gwir Gristion o weithrediad DUW yng Nghrist lesu, a'u goleuo trwy dywyniad Haul Cyfiawnder.

Cyn gadael tir, dichon bod y rhan fwyaf ohonynt wedi clywed am longau tebyg a adawodd Afon Lerpwl ar ben llanw, ac nas gwelwyd byth wedyn.

Dichon i ddyn fod yn denant hapus ond iddo beidio â bod o natur ry deimladwy.

Dim dichon gwybod be oedd yn mynd ymlaen yn y pen rhyfedd.

Er iddo fod yn ddigon grasol i osgoi mynegi barn am raglenni teledu heddiw dichon fod elfen o feirniadaeth wrth iddo drafod y datblygiad a fu o ran technegau dros y pum mlynedd ar hugain er pan wnaeth ef y ddwy raglen a ddangoswyd.

Dichon ei fod yn iawn.

Yn wyneb cyni o'r fath, dichon mai unig gysur llawer un oedd gweinidogaeth yr Eglwys.