Dodwch haenen sebon o dan dap dŵr sy'n diferu.
Y ddwy wedi prynu ein hoff lysiau i baratoi'r pryd a choginio cymaint o chillies nes bo llygaid Kate a minnau'n diferu, a'r ddwy ohonom yn tagu yn y fflat.
Weithiau arhosai i wrando ond ni chlywai ddim ond sŵn y dŵr yn diferu a churiadau ei galon ef ei hun.
Cyrraedd i gopa'r llosgfynydd ei hun tua hanner awr wedi tri, yn chwys diferu a'm llwnc fel ffwrn grasboeth.
Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.
Yn ddisymwth daeth wyneb Betsan yn fyw unwaith eto o flaen ei lygaid, y rhychau melyn yn diferu â dþr Wnion, yr amrantau trwm yn cau allan y casineb a'r gwarth a'r crechwenu dieflig o'r chwmpas.