Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diferyn

diferyn

Ychydig yn ddiweddarach fodd bynnag, ac yntau wedi cael diferyn go gadarn, perswadiwyd Twm gan eraill o'r criw i neidio i'r môr am ei fod yn nofiwr cryf.

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

Oes gen ti awydd diferyn i'w yfed cyn mynd i'r gwely?" "Dim diolch .

Ond mynnu mynd yn ei flaen wnaeth Merêd; ni chredai y deuai'r glaw'n fuan - ni fynnai gredu hynny gan gymaint oedd ei awydd i sugno'r diferyn eithaf o fwynhad o'r profiad hwn.

A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?

Mae Manawydan a Llwyd, ill dau, yn adennill yr hyn a oedd yn nesaf at eu calonnau, mae anrhydedd y naill a'r llall heb niwed, ac ni chollir diferyn o waed.

'Ma siŵr!' Y funud wedyn gwaeddodd Marian nad oedd diferyn oddŵr yn y tŷ!

Ond doedd dim un ohonyn nhw yn gallu cael diod pan fyddai'r lleill yn gafael yn y cwpan, ac mi fydden nhw'n gweiddi, un ar _l y llall, "Dydw i ddim wedi cael diferyn!" "Na finnau chwaith!" "Mae 'na de wedi mynd i'm llygaid i!" "Ac mae 'na beth yn fy ngwallt i!" "Ac mae 'na dipyn wedi mynd ar fy nghrys i!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael diod iawn yn y pnawn ac mi fyddai syched arnyn nhw.

Brysiodd adre i fath poeth, a diferyn o wisgi yn ei the.