Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffeithwch

diffeithwch

Y bobl a fu'n trin y tir trwy'r canrifoedd, yn gwareiddio'r pridd, yn dofi'r diffeithwch â'u herydr ac yn plygu'r nentydd i'w gwasanaeth.

Hefyd, mae Williams, sydd wedi bod yn y diffeithwch o safbwynt Cymru yn y blynyddoedd diwetha, wedi ymuno â thîm A Cymru, fydd yn wynebu'r Eidal nos yfory.

Mae'n gwarchod llygad y camel rhag gronynnau o dywod sy'n hedfan yn awyr y diffeithwch.

Mae yno flodau a choed a ffrwythau a phorfa las - a'r cyfan yn ynys werdd yng nghanol diffeithwch llwyr ar bob llaw.

Bu'n beirniadu cystadleuaeth y Gadair bron bob blwyddyn o droad y ganrif hyd at ei farwolaeth ym 1929, a cheisiodd arwain y canu caeth o'r diffeithwch yr oedd ynddo ar y pryd.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.