Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.
Praw digon digamsyniol o fri unrhyw noddwr ac o fywiogrwydd llenyddol ei drigfan yw fod beirdd wedi ymryson am le o dan ei gronglwyd.
pwysau trwm digamsyniol y lasgangen yn tynnu y ffordd yma a'r ffordd acw ...
Mae cynllun Airbus yn brawf digamsyniol fod y drefn newydd honno, fel sofraniaeth Ewrop, yn cael ei harddel ar lan y Rhein, ac o ystyried geiriau Jaques Chirac, ar lan y Seine hefyd.
Pwy a all fesur ein dyled i'r Cymry hynny sy'n gwrthod gwerthu eu ffermydd i'w cyd-Gymry amharchus, gan ddewis yn hytrach ymddiried y tir sydd mor annwyl ganddynt i ddwylo'r sawl a rydd brawf digamsyniol o'i barch tuag at y tir hwnnw?
Daeth yn arwydd digamsyniol bod y gwanwyn wedi cyrraedd, yn wir, ni ddaw ar ein cyfyl nes i'r hin gynhesu.
Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.