Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digio

digio

Efallai bod rhai ohonoch yn digio yn awr: eu helpu nhw fydda'i, meddech chi, dweud wrthynt am gelfyddyd fy ngwlad, dydw i ddim yn sathru ar neb na dim.

Am to be angry with her dydi bod yn flin efo hi ddim yn cael ei gynnig a dydi digio wrth rywun ddim yr un peth o gwbwl.

Roedd Idris druan wedi digio, ac ystyriodd aros yno a gadael i'r bêl fynd ymlaen hebddo.

Yr oedd yn oriog ei agwedd at bobl, ambell dro'n eu canmol i'r cymylau, dro arall yn digio'n bwt â hwy.

"Os na fyddi di'n hogyn da, mi gei di fynd i'r wyrcws." Dyna fyddai bygythiad Mam wrthyf lawer gwaith wedi i mi ei digio.