Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digonedd

digonedd

Rhagdybiai y diwygiadau hyn rwydwaith o weision suful ar y raddfa ranbarthol a digonedd o ŵyr yn y pentrefi a fedrai ddarllen gorchmynion yr awdurdodau ynghylch iechyd, amaethyddiaeth a phethau 'buddiol' eraill.

Yn y canopi hwn mae digonedd o fwyd ar gyfer y myrdd o greaduriaid bychain.

mae amryw o'r teloriaid yn bwyta digonedd o fwyar cyn cychwyn.

Digonedd o fwyd a diod.

Ar y dechrau ymgolli yn y digonedd a'r moethau a wnaeth y pedwar, gan feddwl meddiannu'r cyfan eu hunain.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Go brin y byddai hynny'n gweithio yng Nghymru er fy mod i wedi prynu digonedd o lyfrau nad wyf wedi cael y mwynhad a ddisgwyliwn oddi wrthynt.

Wedyn, rhwng y gwahanol silffoedd o lyfrau y mae digonedd o gadeiriau esmwyth y gall rhywun ymlacio ynddynt tra'n pori trwy lyfr.

Roedd digonedd ohonynt, tua thri chant i gyd.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Mae digonedd o dyfiant ar y graig o ynys fechan dafliad carreg i ffwrdd, ond allan o gyrraedd dannedd y defaid a'r geifr.

Mewn un peth yn unig y ceir digonedd yn y byd hwn, a chyflwynwyd hwnnw inni mewn darn o adnod: Digon iti fy ngras i.'

Roedd digonedd o dai bwyta ar gael yno ond dim gwesty felly roedd rhaid i fi ddod lawr gyda'r hwyr.

Gwelai lai o angen gwraig rŵan nag erioed ag yntau a digonedd o amser, heb ddim yn galw arno.

Yn ystod y tymor byr yma mae'r adar yn manteisio ar y digonedd o fwyd ac yn bridio a chodi teulu.

Anodd meddwl am unrhyw agwedd o briodi nad yw Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cyffwrdd a hwy ac er bod digonedd o'r math yma o gyhoeddiadau ar gael yn y Saesneg bydd o fendith i sawl pâr cael cyfrol fach fel hon wedi ei hanelu'n benodol at gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.

Dyma gyfrol sydd newydd gyrraedd silfoedd siopau llyfrau led-led Prydain, a mar ddelwedd liwgar o Cerys ar y clawr yn siwr o sicrhau fod y llyfr yn cael digonedd o sylw.

Mae digonedd o cwarts i'w weld yma eto yn disgleirio yng ngolau'r haul.

Yr oedd rhesymau 'teuluol' dros roi imi'r enw 'William' a digonedd o reswm dros 'Thomas'.

Gyda llaw, mae digonedd o ddillad ysgafn ar y gwely, neu am y corff, yn fwy effeithiol na thrwch o ddillad trwm.

Fe ddowch at llwybr canol yn awr a digonedd o flodau i'w gweld yn yr haf cyn cyrraedd yn ol i'r traeth.