Ceir Ffynnon Dalis ger pentref Dihewyd a Vitalis yw nawddsant y plwyf hyd heddiw.
Yna, o dan nawdd Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, bu ganddo o bryd i'w gilydd ddosbarthiadau ym Mwlch-y-groes, Pencader, Dihewyd, Rhydlewis, Bwlch-llan, Ceinewydd, Llanrhystud a Llwyncelyn.
Fe ddigwydd dihewyd mewn enwau lleoedd eraill yng Nghymru hefyd.
Y mae'n bosibl mai Betws Dihewyd oedd enw gwreiddiol y plwyf.
Yn Llanilltud Faerdre ym Morgannwg ceir yr enwau Y Ddihewyd a Moel Dihewyd.
Yn Nhywyn ym Meirionydd ceir Doldihewydd ac yng Nghwmrheidol, Ceredigion fe ddigwydd yr enwau Dihewyd a Pen Dihewyd.
Gair Cymraeg yn golygu 'taer ddymuniad, eiddgarwch' sydd bellach mi gredaf yn bur anghyffredin yw dihewyd.
Dihewyd Plwyf a phentref yng Ngheredigion yw Dihewyd.