Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dilysrwydd

dilysrwydd

iii) i ddatblygu credo a ategai mai Duw yw creawdwr y byd, a dilysrwydd ymgnawdoliad Crist.

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Gweithredwyr yn cydnabod dilysrwydd un egwyddor amlwg, hawl cenedl i'w rhyddid, oedd Padric Pearse ac Arthur Griffith, a Michael Collins a de Valera.

Rhaid i'r Gymraeg a'r Saesneg fod yn gyfan gwbl gyfartal o ran eu dilysrwydd annibynnol.

Fel ym mhob maes arall, mae gwaed newydd yn gwbl hanfodol i barhad y sector annibynnol, ac mae'n briodol iawn fod rhywrai o bryd i'w gilydd yn herio hen werthoedd ac yn amau dilysrwydd hen safonau.

Nid oedd yno neb i amau dilysrwydd yr wybodaeth a roddwyd gerbron na chywirdeb y ffeithiau.

'Deud y bydda i nad oes a wnelo cyfreithiwr ddim â'r cwestiwn a ydi person yn euog ai peidio, dim ond â dilysrwydd y dystiolaeth ymhob achos.'

Wrth gydnabod dilysrwydd patrwm crefyddol aelodau o'r Lluoedd Arfog, a'r difrawder a fynegwyd yn eu hatebion i'r holiadur, ychwanegodd Gwenan Jones mai'r un oedd ymagwedd yr ifanc nad oedd yn y Lluoedd.

Yn Llangollen edrych am burdeb a dilysrwydd y traddodiad wna'r beirniaid, oedd yn bobol wedi'u trwytho yn nhraddodiadau gwerin a dawns gwledydd y byd, a gan mai saith o'r math yma o wyrda oedd yn tafoli yn Mallorca, penderfynwyd cadw at y ddwy ddawns oedd wedi ennill coron Llangollen inni, sef 'Cadi Ha' a 'Dawns y Glocsen' fel ein dawnsfeydd yn y gystadleuaeth.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

A oes gwrthdaro rhwng moderniaeth a dilysrwydd diwylliannol?

Rhaid i hyn gynnwys cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg ar sail egwyddor dilysrwydd cyfartal annibynnol.