Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dinistriol

dinistriol

Hwyrach mae ein taflu at ein gilydd yn y ffordd fwyaf dinistriol ac annymunol fydd y canlyniad, wrth i ni fod yn esgymun gan weddill y byd, heb neb gan y naill ond y llall i afael ynddo a phwyso arno.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Anghyfiawn falle, dinistriol yn sicr, ond cymhleth?

A thra'i bod hi'n mynd i'r afael â chymlethdodau rhywiol a dinistriol Gudrun Brangwyn, canfu ei bod yn feichiog.

Mae rhywbeth mwy treisiol a dinistriol, ar y llaw arall, yn gorwedd islaw diwethafiaeth byd Gwilym Meredydd Jones, ac mae casineb oeraidd y stori-deitl, Chwalu'r Nyth, yn iasoer yn ei diffyg tosturi.

Tynnir pictiwr o gymuned a sbaddwyd, un ar drugaredd grymoedd dinistriol y farchnad rydd.

Os ydych yn dymuno gwrthwynebu'r cynllun dinistriol hwn, anfonwch eich llythyrau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Swyddfa Gymreig, Parc Cathays, Caerdydd.

Gwelwn bob wythnos dystiolaeth o dlodi a newyn lle mae gwrthryfel, ac eto y mae yr un gwledydd yn medru fforddio arfau dinistriol.

Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.

(d) Lleihad mewn dylanwad yn yr Alban a Chymru, ble gallai cefnogaeth leol i ddatblygiadau dinistriol, e.e.