Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diriogaeth

diriogaeth

Dadfeilio y mae popeth o wneuthuriad dyn, a thyfiant naturiol yn adfeddiannu hynny sy'n weddill o'i diriogaeth wreiddiol ...

Clyma hon ynghyd bobl a rannodd yr un diriogaeth dros gyfnod hir o amser ac a ddatblygodd yn ystod cwrs ei hanes yn y famwlad, draddodiadau ac arferion a sefydliadau a'u gwahana oddi wrth bobloedd a chenhedloedd eraill Cynnwys y rhain fel arfer gyfraith, crefydd, sefydliadau gwleidyddol ac iaith, er nid yw'r nodweddion oll bob amser yn bresennol.

Pan oedd eu hymerodraethau yn eu bri, mater o hwylustod wrth weinyddu oedd mynnu mai iaith y goresgynnwr oedd yr unig iaith swyddogol yn y diriogaeth.

Cyfeiria'r bardd at anwadalwch y planedau, ac ymbil ar Dduw a'r seintiau i beri heddwch rhwng y ddwy diriogaeth.

Iaith y canu oedd Profenseg neu la langue d'oc, dit aujourd'hui l'occitan, ond yr oedd ei diriogaeth wreiddiol yn ehangach na Phrofens, oblegid cynhwysai hefyd Languedoc, Aquitaine (gan gyfrif Limousin, Perigord, etc) ac Auvergne, a defnyddiwyd yr iaith fel cyfrwng canu gan y beirdd i'r deau o'r Pyrenees, gan y beirdd Catalanaidd ar y naill law a chan feirdd gogledd yr Eidal ar y llaw arall.

Roedd teulu o Birmingham wedi bod ar wyliau yn y Cei Newydd yn Sir Aberteifi, ac wrth gwrs, roeddent wedi gyrru ar draws Sir Drefaldwyn er mwyn cyrraedd Sir Aberteifi, a'r cyfan ar diriogaeth Heddlu Dyfed-Powys.

Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.

'Roedd y rhyfel am diriogaeth yn Ne Affrica rhwng y Boeriaid a'r Prydeinwyr yn ei anterth, a'r Ymerodraeth Brydeinig yn ei grym.

Yn methu'n lân, fodd bynnag, â'i leoli, suddodd y gyllell i lawr am y cymal sy'n cysylltu'r aelod wrth y corpws, a dechreuodd hacio'n hyderus yn y diriogaeth honno.

Marcio'r diriogaeth unwaith eto, ond mae lle i sylw gwreiddiol, ysgafnach ar dro.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.