Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

disglair

disglair

Yr oedd hyn i gyd pan oedd Alun Oldfield Davies yn Rheolwr rhadlon yng Nghaerdydd a Hywel Davies twymgalon a disglair, a fu farw mor drist o gynamserol, yn Bennaeth Rhaglenni.

'Ym mhob gwlad y megir glew', medd yr hen ddihareb, a thristach na thristwch yw gweld dynion disglair yn ein gadael a hwythau ym mlodau eu dyddiau.

Heb rybydd o gwbl, daeth fflach o olau disglair nes bron â dallu'r tri ohonyn nhw, a theimlodd Geraint y bar haearn yn dod yn rhydd yn ei ddwylo.

Mae'r 'conau'yn sensitif i liw ac i olau llachar, a'r 'rhodenni' sy'n gweld pethau llai disglair ac sy'n rhoi golwg inni gyda'r nos.

Dilyn rhaeadrau oedd fy ngwaith yr ochr draw, saith milltir o raeadrau rhwng copa'r bwlch a phentref bach Susauna, a milltir ar ben milltir arall o raeadr a phistyll yn ymuno a phrif afon y cwm o grognentydd clasurol, o'r pantiau eira disglair y tu ol i'r cymylau, ac o lasierau cudd Piz Vadret.

Chwech yn unig yn cystadlu, a phryddest gymedrol yn hytrach na disglair yn ennill.

A'r peth nesaf y gwyddai Meic, roedd yn gwibio'n nes at yr anghenfil disglair gan ergydio at ei goesau gyda'r fwyell.

Gwelwn ddefnydd gwahanol ohonynt bob blwyddyn, ac mae dyfodol disglair, mewn sawl ystyr, o'u blaenau.

Mi faswn i'n proffwydo bod iti ddyfodol disglair - hefo'r Rechabiaid, ond nid yn swyddfa'r Gwyliwr.' Prysurodd Dan i egluro.

Mae dyfodol disglair o'i blaen a chefnogaeth lwyr dau riant sydd am sicrhau'r gorau iddi hi.

er hynny mae'n dîm sy'n gwneud yn go dda oddi cartref gyda stephan pears yn gôlgeidwad disglair a fu'n chwarae i manchester united nes iddo gael ei drosglwyddo i barc ayresome.

Ond cyn mentro i'r byd actio roedd yn un o sêr mwya' disglair y byd adloniant ysgafn yng Ngorllewin Morgannwg ac yn arfer canu gyda neb llai na Bonnie Tyler a aeth ymlaen i gael hits enfawr gyda 'Lost in France' a 'Total Eclipse of The Heart'.

Bu'n fyfyriwr disglair yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac oddi yno aeth i Goleg y Bala i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Cricedwr disglair, Cymro i'r carn, a gŵr bonheddig oedd David Evans.

Y coleg hwn oedd un o gadarnleoedd Protestaniaeth yng Nghaergrawnt yn y cyfnod hwnnw, ac yr oedd yno ysgolheigion disglair.

Aeth y daith forwrol hon â hwy o'r moroedd oer oddi ar arfordir Gogledd Cymru i ddyfroedd disglair Cefnfor India.

Ond wrth fudo i sir Northampton yr oedd yn ymuno â mudiad Piwritanaidd a oedd yn llechu o dan adenydd gwyr dylanwadol ac a oedd yn ymddangos fel petai dyfodol disglair o'i flaen.

'Roedd partion eraill - Y Clarion, Gwalia ond y mwyaf arbennig a disglair efallai oedd Cor Offa, neu Gor Joe Bel.

Yn wir, fod enw neb llai na Tanni Grey - enillydd pedair medal aur yn y gemau paralympaidd yn Sydney - ymhlith cyn-fyfyrwyr disglair y coleg.

Mae'r ser hynny y gallwn eu gweld a'r llygad noeth yn rhai disglair iawn - llawer mwy disglair na'n Haul ni.

Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen.

Cymeriad annwyl iawn ydoedd, a gŵr disglair, â chanddo gynt swydd uchel mewn banc yn Hong Kong, ac yn medru Tseinaeg yn rhugl.