Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.
Am y bardd, roedd ganddo ef hynafiaid wrth y llath, gyda thraddodiad hir a disgyblaeth fanwl yn gefn iddo.
Ni fyddai hi byth yn ymyrryd a disgyblaeth y cartref.
Bydd yn rhoi cyfle i bawb feddwl am yr hyn y maent yn anelu ato a bydd yn gosod disgyblaeth ar y gwahanol adrannau, fel bod y penaethiaid yn deall y sefyllfa ac yn osgoi gweithredu'n groes i'w gilydd.
Newid arall a welwn yw diffyg disgyblaeth.
Cymharodd yr Esgob Lewys Bayly o Fangor (a fuasai ar un cyfnod yn hen elyn i Wynn) deulu Gwedir i farch na wyddai ei nerth ei hun; cydnabuwyd mai gair Syr John oedd yr uchaf a'r parchusaf ymhlith ei gyd-ysweiniaid ar y fainc yng Nghaernarfon; a rhydd ef ei hun yr argraff yn gyson yn ei ohebiaeth iddo dderbyn addysg a disgyblaeth fonheddig a chwrtais.
Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.
Disgyblaeth
Ac fel y gwelsom, byddai'n aml yn anghofio disgyblaeth lem ei glasuriaeth yn ei afiaith wrth drafod llenorion unigol.
Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.
Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.
Ystyrid bod dysgyblaeth o'r fath yn bwysig mewn perthynas â phriodi ac ystad priodas; pwysleisid trefn a disgyblaeth mewn dewis gŵr neu wraig, sef y broses o briodi a'r cyd-fyw, er sicrhau llwyddiant a ffyniant y teulu i'r dyfodol.
Mewn cyfnod pan na cheid heddlu ystyrid mai disgyblaeth yn y cartref oedd y dull mwyaf effeithiol ac ymarferol i sicrhau heddwch a threfn yn gyhoeddus a moesau da mewn bywyd personol.
Rheolau Trefn Disgyblaeth a Chwynion
Ond o gofio fel y mae ffwndamentaliaeth Foslemaidd yn ennill cefnogaeth gynyddol mewn llawer rhan o'r byd, hwyrach y gallwn sylweddoli fod adegau pan geir miloedd o bobl yn cofleidio disgyblaeth chwyrn.
Ac yn Harris cafwyd dyn penderfynol a fynnai gadw disgyblaeth gadarn arno.
'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.
Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.
mewn cyfarfod cyhoeddus yn nhref Abertawe yn ystod yr Ysgol Haf, dangosodd beth y byddai'r penderfyniad yn ei olygu mewn disgyblaeth i ymladd brwydr ymreolaeth drwy ddulliau di drais.
Ceid bron hanner cant yno pan oedd lawnaf a'r rheini, o leiaf yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, yn cadw rheolau disgyblaeth yr Urdd Sistersaidd yn fanwl.
Ei hamcan yw hybu gwell gwerthfawrogiad o safonau perfformio, o arddulliau drama, o grefft a disgyblaeth llwyfan.
Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.
Yn wir, mae'r dirywiad i'w briodoli yn fwyaf arbennig i ddiffyg disgyblaeth rhieni a'r llyffetheiriau a roddir ar athrawon i ddisgyblu mewn Ysgolion.
Y rheswm pennaf am hyn yw fod yr actorion a'r cynhyrchwyr yn ymroddedig ac wedi mynnu meistroli, orau y gallent, grefft a disgyblaeth y llwyfan.
Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.
Ystyrid yr ieithoedd brodorol yn rhy ddiffygiol mewn dysg a disgyblaeth i'w defnyddio ar gyfer gwneud trosiadau boddhaol ohono.
Yr oedd ei ymchwiliadau i lenyddiaeth yr Oesoedd Canol wedi ei arwain i synio am gelfyddyd fel disgyblaeth:
Mewn dau air - sicrwydd a disgyblaeth.
Cydnabyddid ei awdurdod i sicrhau disgyblaeth ac ufudd-dod o fewn cylch y teulu ac oddi allan iddo.
Ond mae'r chwaraewyr yn dal mewn ysbryd da ac y mae wedi profi iddyn nhw ac i bawb arall mor benderfynol y mae'r rheolwyr i gael disgyblaeth yn y garfan ar bob lefel.
Mae angen ymroddiad ynglwm â disgyblaeth ac mi allai perfformiad ddatgan mwy am obeithion hir dymor Cymru na thriphwnt yn Kiev.
Oherwydd bod disgyblaeth a hyfforddiant mewn llu mawr o eglwysi wedi pallu, y mae anwybodaeth yr aelodau am gynnwys y Beibl a hanfodion y Ffydd yn achos pryder mawr.