Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diweddarach

diweddarach

Mae'r profiad hwnnw, a'r dadrith a'i dilynodd, yn ganolog yn ei waith ond, fel awdur a ddywedodd unwaith fod pob llenyddiaeth werth-chweil yn wleidyddol, mae wedi ymdrin yn ddeifiol hefyd ag agweddau cynharach a diweddarach ar hanes yr Almaen.

Dyma un arall o'r erthyglau na chafodd eu hailgyhoeddi, ac mae'n hawdd deall pam, gan fod ynddi ambell osodiad a fuasai'n anathema i'r Saunders Lewis diweddarach.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Ond hwyrach mai disgyblion ac edmygwyr Garmon a'u henwodd felly mewn dyddiau diweddarach.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Erbyn iddo gyfansoddi Meini Gwagedd, ac yntau yn ei weithiau diweddarach wedi pwysleisio gallu'r ewyllys ddynol, roedd wedi dechrau gweld mai hanfod bywyd yw'r ffordd y mae'r elfennau gwahanol wedi'u cyd-wau ynddo.

Yn union fel y daeth hynny'n sylfaen ffydd Israel trwy gydol ei hanes diweddarach, mynnai'r Cristionogion mai trwy Iesu y cyflawnodd Duw waredigaeth ei bobl maes o law.

Cadarnhaodd yr adroddiadau diweddarach o'r ysgolion iddynt gadw at eu gair.

O gynnwys Eric, wyr bach Jane Gruffydd sy'n dod ati hi fyw, mae pum cenhedlaeth yn dod i mewn i'r hanes, a champ y nofel yw'r modd y mae'n dangos bywydau'r rhain yn gorgyffwrdd ac yn effeithio ar ai gilydd (thema amlwg yn ei straeon diweddarach, fel 'Gwacter' yn y gyfrol Gobaith).

Beth am yr ymdeimlad - a dyfynnu bardd diweddarach, un o genhedlaeth drasig y Rhyfel Mawr Cyntaf - yr ymdeimlad fod Duw ar drai ar orwel pell?

Ychydig o'u hoffer sydd wedi'u darganfod yng Ngheredigion ac am yr ychydig enghreifftiau o gladdu dan gromlech sydd yn y sir, tybir mai i gyfnod diweddarach y perthynant.

Aeth hanesydd diweddarach, yr Athro Alcock, i chwilio am Arthur mewn caer nid annhebyg, ond yn llawer nes i'r gorllewin, sef South Cadbury yng Ngwlad yr Haf.

Y grêd bresennol yw i'r cefnfor hwn ail-lenwi sawl tro yn ystod cyfnod diweddarach yn hanes Mawrth ac fe seilir cred o'r fath ar sylwadaeth o ddyffrynnoedd afonydd ar gledr mynyddoedd tanllyd mwy diweddar.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Y bennod yr ymddiddorodd Peate fwyaf ynddi (a barnu wrth y dyfyniadau mynych a gododd ohoni yn ei waith diweddarach) oedd y ddegfed, 'Soul-Making', lle y ceisiodd Murry dreiddio i seiliau metaffisegol estheteg Keats.

Yn yr adroddiad cyntaf hwnnw trawyd nodau y byddai adroddiadau diweddarach yn cydgordio â hwy: un oedd y ffaith - fel y gwelid pethau - nad tlodi oedd wrth wraidd y diffyg truenus yma o ysgolion neu gyfarpar.

Dyma gynsail y datblygiadau diweddarach yn y ffilm: try'r gwylwyr goddefol yn y galeri ac yn yr awditoriwm sy'n eistedd yn ol ac yn gwylio pethau'n digwydd iddyn nhw yn weithwyr gweithredol.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

Y ffaith fod yn ei lyfr awgrym o'r holl ddamcaniaethau diweddarach am y Derwyddon sy'n peri ei fod yn ddogfen tra phwysig wrth inni olrhain hanes syniadau'r ddeunawfed ganrif am y cynoesoedd, a bod Rowlands yn ffigur arwyddocaol yn yr hanes hwnnw.

Er hynny, digon o waith fod y Gymdeithas wedi cyflawni'r ail ddiben y sonia OM Edwards amdano, sef 'cyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen, oblegid er bod rhai o'r aelodau, ac OM Edwards yn arbennig yn eu plith, wedi ceisio gwneud hynny, ni wnaeth y Dafydd fel cymdeithas nemor yn y cyfeiriad hwn, a hynny, mae'n debyg, oherwydd mai cymdeithas fechan y bwriadwyd iddi fod, ac mai cymdeithas fechan fu hi ar hyd y blynyddoedd cynnar, beth bynnag am y blynyddoedd diweddarach.

Mewn geiriau eraill, yr oedd yn cytuno â datganiad diweddarach Morgan Llwyd, "Y sawl sydd yng Nghrist, y mae yn y wir eglwys hefyd".

Yr oedd yn ysgolhaig gwych ac yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol ac ieithoedd diweddarach.