Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diweddglo

diweddglo

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Un yr un yw hi hyd yn hyn, a gyda'r drwgdeimlad rhwng y ddau dîm gellir disgwyl diweddglo hynod gyffrous i'r gyfres.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Cafwyd dechrau gwych, diweddglo anghredadwy -ond anghofiwch y gweddill.

Ni all diweddglo'r bryddest ond peri meddwl nad oedd Crwys mor sicr o deilyngdod dyfodol ei werin ag ydoedd o'i gorffennol.

Mae traed yr awdur ar y ddaear ac mae'r diweddglo yn nodi cyfraniadau'r cyfryngau mwy cyfoes i'r Gymru rydan ni'n byw ynddi.

Mae'r diweddglo rhethregol yn cwblhau'r broses o dderbyn y farwolaeth trwy ffarwelio'n ffurfiol â'r gyfathrach a fu rhwng y bardd a'i fab, gan gyrraedd uchafbwynt hynod effeithiol gyda'r cyfarchiad syml a thyner, 'Siôn fy mab'.

Annelwig yw diweddglo...

Cafwyd diweddglo hynod ddramatig i'r gêm hon.

Yn gymorth ac yn ysbrydoliaeth cyfamserol fel diweddglo'r Epistol at yr Hebreaid: 'Oherwydd y mae ef wedi dweud, Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

Cafodd Shaw ei redeg mâs am 24 a wedyn cafwyd y diweddglo arbennig.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Cafwyd diweddglo hynod gyffrous ar faes Thomas Lord wrth i Forgannwg fethu sgorior un rhediad oedd ei hangen oddi ar y belen olaf i ennill ei gêm yn erbyn Middlesex.

rhagarweiniad, datblygiad, diweddglo

A'r diweddglo oedd Idris Charles yn cyflwyno cyngerdd o Theatr Emlyn Williams yn Theatr Cymru Clwyd, Yr Wyddgrug.

Mae bwrlwm a thensiwn y diweddglo - cleimacs treisiol a dadlennol - yn gwrthgyferbynnu (ag felly yn tanlinellu) arafwch rhai darnau o'r llyfr.