Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth, traethawd a wobrwywyd ym 1948.
Dyfarnwyd y Fedal ym 1951 i R. Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth , traethawd a wobrwywyd ym 1948.
Yn gyntaf, y maen'n ymddangos i Forgan fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle a oedd ar gael yn y Coleg a'r Brifysgol i feistroli Hebraeg wrth draed tiwtoriaid dawnus fel y Ffrancwyr Antoine Chevallier a Philip Bignon a'r Sais John Knewstub (efallai mai'r Ffrancwyr a ddysgodd Ffrangeg iddo'n ogystal); yr oedd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr addysg yr oedd yn ei derbyn neu wedi'i derbyn yn y celfyddydau a'r gwyddorau, athroniaeth, Groeg a diwinyddiaeth.
Yn fwyfwy o hyn allan dim ond y clerigwyr hynny a raddiodd mewn diwinyddiaeth a fu'n astudio'r Beibl.
Defnyddiodd, a chamddefnyddiodd Llewellyn, rythmau siarad a ffurfiau gramadeg yr iaith Gymraeg yn ei Saesneg, ond y gwir amdani yw na ellir clywed yr iaith yn sŵn canu'r cor meibion, y newyddion Cymreig hwnnw sy'n gwneud y tro yn lle iaith, diwinyddiaeth ac yn rhy aml gerddoriaeth, ond sy'n dal i gyffrwrdd a'r galon.
Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa.
Dywedir iddo gael doethuriaeth mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen a chael ei benodi'n gaplan i'r Archesgob Thomas Cranmer.
'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.
Tuedd pleidwyr Protestaniaeth oedd bod yn raddedigion mewn diwinyddiaeth.
Yr unig un o'r penaethiaid i wrthod ymuno yn y brotest oedd Dr Routh, Coleg Magdalen, ac efô oedd yr unig un ohonynt a oedd yn wir hyddysg mewn diwinyddiaeth.
Pan wrthi yn ei weithdy 'roedd ganddo bron bob amser lyfr wrth ei benelin; hoffai ddarllen diwinyddiaeth ac athroniaeth yn fwy na dim arall.
Yn ail, er bod Coleg Ieuan Sant yn ystod y cyfnod hwn yn nythle i'r Piwritaniaid, a gredai fod angen diwygio Eglwys Loegr ymhellach fyth yn ôl patrwm Eglwysi Diwygiedig y Cyfandir, ac er bod tiwtoriaid i Forgan a Phrys ymhlith arweinwyr y blaid Biwritanaidd, y mae'n ymddangos i Forgan, a Phrys hefyd yn y diwedd, lynu'n ddiysgog wrth y blaid Anglicanaidd swyddogol, a arweinid yng Nghaergrawnt ar y pryd gan un o'r Athrawon Diwinyddiaeth, y Dr John Whitgift.
Pan oeddwn i'n ddeunaw oed, a chyn i'r rhyfel dorri, fe es i Goleg Dewis Sant, Llanbedr Pont Sterffan ac ar ôl graddio, mynd ymlaen wedyn i ddarllen diwinyddiaeth a dysgu'r grefft o fod yn berson plwy yng Ngholeg San Mihangel, Caerdydd.
Ond yr oedd y mwyafrif llethol o aelodau'r Lluoedd Arfog y cysylltodd â hwy, wedi ymwadu'n bur gyffredinol ag iaith draddodiadol crefydd a diwinyddiaeth.
(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.
O ran diwinyddiaeth yr oedd yn Galfinydd manwl - dywedir mai ef a luniodd Erthyglau Lambeth i'r Archesgob John Whtigift.
Nid bod unrhyw amheuaeth ynglyn â Phrotestaniaeth Meyrick a Young ond yr oedd eu dull o feddwl yn bur wahanol i ddull meddwl dyn fel Ferrar a raddiodd mewn diwinyddiaeth.