Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diwyd

diwyd

Nid oes lle i amau na fu'r Dirprwywyr yn dra-diwyd wrth gasglu manylion perthnasol.

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Hiwmanist oedd Herder, un o'r Ewropeaid cyntaf i amddiffyn diwylliant yr Indiaid Cochion; ysbrydolwyd ef yn ifanc gan ganeuon gwerin y Latfiaid; a phroffwydai y byddai'r Slafiaid 'gynt mor hapus a diwyd ..

Er na chredai hynny, adlewyrchwyd y Gwynfydau yn ei fywyd diwyd.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Am tuag awr fe aeth Jock a minnau ymlaen gyda'n gwaith yn eithaf diwyd, ond braidd yn hamddenol.

Ac wrth gwrs, mae'r Tafod bob tro yn fwy na hapus i gyhoeddi tystiolaeth o waith diwyd a diflino'r Quango Iaith dros y Gymraeg.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Diolchwyd yn fawr i Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth, am eu gwaith diwyd yn trefnu'r raffl.