Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dreiddgar

dreiddgar

Mae'r emynau'n cwmpasu holl gyfoeth y bywyd Cristionogol yn ei bryder a'i orfoledd, yn ei ofnau a'i sicrwydd, ei anawsterau a'i lwyddiannau, yr union bwnc y canodd mor dreiddgar amdano yn Theomemphus.

Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd The Office yn olwg dreiddgar y tu ôl i'r llenni ar y Swyddfa Gymreig oedd yn dangos gweision sifil wrth eu gwaith yn datblygu ac yn llywio'r ddeddfwriaeth ac yn trafod cartref y Cynulliad.

Roedd y 'Llythyr' yn ble dros ddifrifwch llwyr, dros lenyddiaeth gyfrifol, dreiddgar - nid llenyddiaeth addurnol, dlos, sentimental neu bietistaidd.

Y tu ôl i'r ymdriniaeth â sefyllfa deuluol y Gŵr a'i ferched y mae gweledigaeth dreiddgar debyg i'r hyn a welid yn gweithio yn nofelau Zola, neu'r brodyr Goncourt.

Yr oedd y lliain mor glaerwyn, y grefi mor ansefydlog, llygaid Anti Lw a'r misus mor dreiddgar, fel y byddai'n amhosibl bron i mi ddod trwy'r cinio'n ddidramgwydd ac yn ddigonol.

Nid oes ganddo'r uchelgais i dorri cyt fel meddyliwr neu athronydd, er y gall fod ganddo feddwl chwim ac athroniaeth dreiddgar; a thybiaf finnau nad oedd mewn rhai cyfeiriadau neb llymach ei ddeall yng Nghymru yn ei genhedlaeth na Waldo Williams.

Yn sicr, dydi meddylgarwch dreiddgar a Chymraeg graenus Gwyn Erfyl, gyda phob gair wedi ei ddewis yn ofalus, ddim yn rhywbeth y mae rhywun yn gweld gormod ohono y dyddiau hyn.