Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dreifar

dreifar

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Yr oedd yn bosib prynu math o rwyd fetel tebyg i waelod gogor i'w gosod dros y ffenest i gadw'r cerrig i ffwrdd gyda sgwaryn agored o flaen sedd y dreifar i hwnnw gael gweld lle mae'n mynd.

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

Ar ôl rhyw ugain milltir o ddreifio mewn distawrwydd, dywedwyd wrth y dreifar am aros er mwyn inni gael ateb galwadau natur.

'A lle gythril 'da chi'ch dau'n mynd?' holodd y dreifar.