Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

drio

drio

Cofiwch, dydyn ni ddim yn angylion o bell ffordd, ond rydyn ni'n fodlon ac yn barod i drio'n gorau.

Ymateb y Llywodraeth oedd i drïo rhannu pobl Cymru a chynnig y lleiaf i gadw pobl Cymru'n dawel.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

'Yn Corsica ges i'r cyfle cynta i drio scuba diving, ac mi ges i nghyfareddu gan yr holl beth,' meddai.

"Llanelwy fydd lleoliad ein prif swyddfa yng Ngogledd Cymru, ond mae cynnig i bawb sydd yn gweithio ym Mangor drio am swydd yno," meddai.

"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Y noson honno, roedd y cinio'n y gwesty yn ofnadwy a gan nad oedd yr apres sgio yn rhyw ysbrydoledig iawn - gwely'n gynnar amdani i drio gwneud i fyny am ddiffyg cwsg y noson gynt.

''Sna 'di o wahaniath mawr gynnoch chi, 'dwi am drio'i 'nioni hi am Gerrig Gleision, draws caea'.' 'A 'ngadal i yn fama, ar 'y maw?' 'Fedar y bus aros ylwch.

Wel, cyn i mi gychwyn o'r Penmorfa hwnnw mi es i ati hi, i drio deud wrthi hi bod ddrwg gin i glywad am 'i chollad hi, a ...

Gyda Rownd Derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm dridiau i ffwrdd, roedd Lerpwl neithiwr yn dal i drïo sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesa.

Rhaid i ni nawr wneud yn siwr ein bod ni'n gwneud y pethau syml yn iawn a bod yn gywir yn yr hyn rydyn ni'n drïo wneud.

'Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth heno,' meddai wrth Huw, 'i drio dychryn y ddynas 'ma a'i chael hi odd' 'ma.

Beth am drio nes 'mlaen?'

A nawr rwyn falch o'r cyfle i drïo profi pwynt.

Mae'n well gen i drio am docynnau pêl-droed.

Yr oedden nhw'n cynaeafu cnau y goeden Cacao filoedd lawer o flynyddoedd cyn i Mr Cadbury drio'n gwneud ni i gyd yn Ffrŝt an Nyt Cesus a chodi ei deml yn Bournville.

Mi es i fel mellten i drio eu dal - ond doedd dim son am neb!

Dwi am drio 'ngora' i grafu dan groen y ddelwedd yn ystod y misoedd nesa'.

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Syfrdanol, ac mae llawer o waith ymchwil wedi ei wneud i drio darganfod sut yn y byd mae'r adar yn medru gwneud y fath beth.

'Mi ddo i fory i drio ennill tocynnau ffrwyth,' addawodd.

Bydd raid iddo drio callio ar gyfer y dyfodol.

Roedd y bechgyn yn dweud wrtha i drïo cofio a meddwl beth oedd yn digwydd - roedd e'n sbeshal.