Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dristwch

dristwch

Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.

Achosodd y digwyddiad hwn lawer o dristwch yn Marian Glas, Môn, ac ym Mhwllheli, lle'r oedd y mêt a'i wraig yn byw.

'Roedd yn ddarlun o dristwch; ei gnawd yn oer, ei geg yn glafoeri, a'i lygaid mor bwl ddifywyd â llygad pysgodyn marw.

Hawdd deall ei dristwch o gofio y cyfoeth profiadau oedd ar gael i lenorion mewn diwydiant wedi ei lethu gan streiciau, anghydfod, brawdgarwch ac ymwneud pobl â'i gilydd mewn amgylchiadau a esgorai ar arwriaeth arbennig.

Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.

Mynegodd ef ei argyhoeddiad, a'i ddilyn gan bob beirniad o bwys, mai'r bardd yw'r un â'r gallu ganddo i feddwl yn drosiadol, i glymu dau argraff efo'i gilydd yn undod clos - i weld henaint yn ddeilen grin ar drugaredd gwynt, i weld bedwen yn lleian, i glywed cân ceiliog yn y pellter yn dristwch mwyn hiraeth, i deimlo yn hen gapel gwag, i droi Angau yn weinidog yn dod i'w gyhoeddiad.

Daeth cwmwl o dristwch dros y gymdogaeth pan fu Mr Huw Williams, Pencoed farw ac yntau ar ei wyliau gyda'i deulu yn Creta.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Dagrau o dristwch - ac o ddiolchgarwch.

Morris Jones, ysgrifennydd Pwyllgor y Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu eu dygnwch a'u dyfalbarhad o dan amgylchiadau anodd, ond er cystal y gwaith hwnnw trawyd nodyn o dristwch gan bob un caplan.

Gwnaeth pawb bopeth i roddi'r Nadolig gorau i bawb ac aeth y Nadolig hwnnw a'i dristwch i blith y llaweroedd eraill.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Gwn yn dda am dy dristwch ar ôl dy fam annwyl.

Mae'n gwneud iddynt deimlo'n ddiogel hefyd.' Llethwyd Mathew gan dristwch.

Ond gall y cofio hwnnw fod yn achos cryn dristwch yn ogystal, gan nad yw'n hawdd i ddyn ddygymod â'r newidiadau sydd wedi digwydd mewn sawl cyfeiriad erbyn hyn.