Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

droedfeddi

droedfeddi

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

`Rydych chi newydd ddringo mynydd dau ddeg dau o filoedd o droedfeddi yn yr Andes yn Periw.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

O'm blaen yn awr, Llwybr Afon Vallember tua'r dyffryn cul, mor gul nes bod hogiau'r hafod wedi medru hongian baner ddu hir hanner y ffordd rhwng ei ddau fur, tua mil o droedfeddi uwchben yr afon.

`Fe fyddwn ni'n ei dynnu pan fyddwn ni bum mil o droedfeddi o'r ddaear.' Cyn hir galwodd John ar Archie eto.

Darganfod nad 'mynydd' yn yr ystyr Gymreig oedd o'n blaenau, ond mynydd ar ben mynydd ar ben mynydd, rhai miloedd o droedfeddi o uchder.

Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.

Yn y llall, mae'r dyffryndir araul, heulog fel petai filoedd o droedfeddi yn is na'i chwe mil uwch lefel y mor: 'chwe mil o droedfeddi y tu hwnt i Ddyn ac Amser', chwedl Nietzsche; 'Brodir uwch brad yr oes', i fenthyg geiriau JM Edwards am ddarn o Geredigion.

Roedd yr awyren ddeng mil o droedfeddi lan a chyn hir roedd y ddau ddyn yn plymio tua'r ddaear ar gyflymdra o gan milltir yr awr.

Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.

Dringodd i deuddeng mil o droedfeddi ac unwaith eto neidiodd y ddau allan a syrthio saith mil o droedfeddi cyn agor eu parasiwtiau.

Wedi mynd trwy'r glyn cul, yr oeddwn yn cerdded trwy goedwig am y tro cyntaf, ond y mae muriau Val Susauna bedair mil o droedfeddi uwch eich pen erbyn ichwi gyrraedd Alp Pignaint, a chreigiau gwylltach eto yn gwarchod mwynder y porfeydd.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.