Clywai sŵn traed yn nesa/ u, sŵn brigau crin yn torri o dan esgid drom.
Pan ddaeth Robaits yn ei ôl gyda'r fen goch, roedd Mwsi wedi tynnu'r sach drom i'r wyneb.
Ffurfiwyd amserlen drom o hyfforddi, a'r dewiswyr yn eu doethineb yn rhoi saib i'r prif chwaraewyr bob hyn a hyn yn ystod yr wythnose ola cyn y gêm, er mwyn sicrhau brwdfrydedd pob aelod o'r garfan.
W^yr neb beth yw'r rheswm pan na all pawb o'r un pwysau bwnio mor galed â'i gilydd a fydd neb ychwaith yn dod o hyd i ergyd drom nac yn llwyddo i ddatblygu un os na fydd hi ganddo o'r cychwyn.
Yn achos clybiau sy'n dod â chefnogaeth drom gyda nhw, byddai'r gêm hynny yn parhau i gael eu chwarae ar brynhawn Sadwrn.
Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.
Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.
Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.
Mi âf oddi yma i'r Hafod Lom Er bod hi'n drom y siwrnai, Mi gaf yno ganu cainc Ag eistedd ar fainc y simne, Ag odid fawr mai dyma'r fan Y byddaf tan y bore...
Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.
Gydag ymwybyddiaeth drom o'r cyfrifoldeb dechreuodd y Pwyllgor Gwaith drefnu'r Brifwyl.
Cawsant ddirwy drom a phenderfynodd Rhys na fyddai yn ei thalu.
Un tro pan oedd y darlithydd ar ei uchelfannau yn trafod canu Llywarch Hen - fe ddaeth cawod drom o law i dorri ar ei arabedd.
Yn un pen i'r raddfa, hen ferfa drom, lymbrus a'i holwyn yn llac a'i hechel yn gwichian ac aml i dolc ei gyrfa wedi gadael eu ôl ar ei choed.
Mi fyddent yn cael cosb drom petai'r Gwylwyr yn gwybod am y llyfrau.
Gyda chalon drom yr ymlwybrodd Harri tua chartref.
'Dal o, Mwsi,' gwaeddodd y gŵr bychan, tew, a theimlodd Siân law drom yn syrthio ar ei ysgwydd ac yn ei gwasgu.
Roedd diwedd caethwasiaeth a Rhyfel Annibyniaeth America yn ergyd economaidd drom i Lerpwl, ond erbyn hynny sefydlwyd llwybrau marchnata newydd i'r Dwyrain Pell a mannau eraill, a manteisiwyd hefyd ar yr holl ymfudwyr a hwyliai o Lerpwl i fyd newydd yn America neu Awstralia.
Gallai pethau fod yn anodd iawn yn y felin fawr gydag ambell archeb drom, a phan oedd yr hin yn boeth.
Bu marwolaeth sydyn ei brawd yn ergyd drom iddi, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi; ac felly y gwnâi eraill fel yr oedd yn ymddangos; oblegid ``llawer a ddaethant i'w chysuro hi am ei brawd''.
Roedd y profion yn cynnwys tasgau a oedd yn aml yn ymddangos yn amherthnasol i rai a oedd am ddysgu siarad iaith, ac roedd y ddibyniaeth drom ar yr ysgrifenedig, yn eu gwneud yn anodd - yn enwedig fel yr eid i lawr yr ystod gallu.
Cawsom gawod neu ddwy go drom o eira ar ôl te ac mae wedi rhewi yn galed dan draed, a phan beidiodd y cawodydd yr oedd yr awyr yn glir ac yn oer.
Mae cyrychiolaeth drom o'r sector hwn yn ardal y cynllun yn y sector gyhoeddus, adwerthu a thwristiaeth.
Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.
Mae'r tân yn cael ergyd drom ar Bethan yr wythnos hon, ac fe fydd yn effeithio arni am weddill ei hoes, ac i Karen mae'r ty a losgwyd yn adlewyrchu y gwacter yn ei bywyd ar hyn o bryd.
Heno, roedd hi am gadw at naws yr hen Ddiolchgarwch drwy wisgo ei dillad newydd, siwt herringbone drom a blows Viyella blaen.
PENDERFYNWYD pwyso ar y Cyngor Sir i uwchraddio'r bont cyn gynted â phosibl oherwydd y drafnidiaeth drom a ddefnyddia'r ffordd.
Bu yn byw yn Llundain, lle bu ei unig ferch fach farw, a bu hyn yn loes drom iddo.